Mae Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, yn dweud bod rhaid i’r diwylliant o fewn y blaid newid, gan ychwanegu bod bwlio a gwreig-gasineb wedi cael parhau’n rhy hir.
Daw ei sylwadau ar ôl i’r arweinydd Adam Price gyhoeddi ei fod am gamu o’r neilltu yn sgil adroddiad damniol i’r diwylliant o fewn y blaid.
Yn ôl Cefin Campbell, sydd wedi bod yn siarad â’r BBC, fe fu sïon “am rai blynyddoedd” am ymddygiad annerbyniol o fewn Plaid Cymru, ac mae’n dweud bod pawb oedd wedi cadw’n dawel yn rhan o’r sefyllfa.
Daeth adroddiad Nerys Evans, cyn-wleidydd Plaid Cymru, i’r casgliad fod “gormod o achosion o ymddygiad drwg” ymhlith uwch swyddogion y blaid.
“Am yn rhy hir, mae pobol wedi gwybod am gamymddwyn o fewn Plaid Cymru, boed hynny’n wreig-gasineb, bwlio, aflonyddu rhywiol neu ba bynnag ymddygiad annerbyniol,” meddai Cefin Campbell wrth BBC Radio Wales, gan ychwanegu ei fod e “wedi clywed sïon” am y fath ymddygiad.
“Felly rydyn ni i gyd ynghlwm yn yr ystyr efallai nad ydyn ni wedi riportio sïon hyd yn oed, felly rhaid i hynny stopio, rhaid i’r diwylliant yna newid.”
Arweinyddiaeth
Hyd yn hyn, mae Cefin Campbell wedi gwrthod cadarnhau na gwadu y bydd yn sefyll i olynu Adam Price.
Ond mae’n dweud ei fod e wedi cefnogi’r arweinydd i aros yn ei swydd er mwyn gweithredu ar 82 o argymhellion yn adroddiad Nerys Evans, er bod Adam Price wedi ymddiswyddo gan nodi ei fod e wedi colli cefnogaeth y blaid.
Dywed Cefin Campbell fod Adam Price wedi gwneud y peth “anrhydeddus” drwy gamu o’r neilltu.
Mae Llŷr Gruffydd bellach wedi’i ethol yn arweinydd dros dro, ac mae Cefin Campbell yn mynnu nad yw’r blaid wedi’i hollti er bod yna “safbwyntiau gwahanol” gan aelodau, ac mae’n dweud bod hynny’n “beth iach”.