Mae dynes o Gaernarfon yn dweud bod cael ei bradychu a’i thwyllo gan ‘gariad’ ar-lein ddechreuodd wneud gofynion ariannol afresymol “fel llafn i’r galon”.
Fe wnaeth Malan Wilkinson gyfarfod â’r ddynes o Ghana trwy grŵp Facebook, ac fe fu sgyrsiau nosweithiol dros Facetime wrth i’r ddynes anfon lluniau ohoni ei hun yn chwarae pêl-droed.
Ond fe wnaeth pethau droi’n hyll yn gyflym wrth i Malan Wilkinson wrthod rhoi rhagor o arian iddi, ac mae hi bellach yn gobeithio dechrau pennod newydd yn ei bywyd ar ôl ei phrofiad.
“Roedd hi’n gyrru sgorau gemau i mi ac yn fy ffonio ar ei ffordd yn ôl i’r camp hyfforddi,” meddai wrth golwg360.
“Rwy’ wedi cyfarfod ei ffrindiau hefyd, a’i brawd dros Facetime, ac wedi bod yn trafod cynlluniau ar gyfer ymweld yn fuan.
“Rwy’ wedi bod yn cysylltu’n ddyddiol ers tua blwyddyn i drafod popeth, a dim byd, fel mae rhywun yn ei wneud gyda phartner.
“Aeth ffrind Facebook yno yn ddiweddar iawn i gyfarfod ei ‘chariad’ ar-lein a chael amser dychrynllyd yno.
“Roedd hi wedi gorfod talu am bopeth i griw enfawr ohonynt, a phan ddaeth ei phres i ben, fe gafodd ei chicio allan o’r tŷ ganol nos.
“Gwariodd filoedd yno dros gyfnod o fis, dim ond i sylwi bod ei ‘chariad’ eisoes mewn perthynas gyda rhywun yno’n barod.
“Ei ‘ffrind o Brydain’ oedd hi i bawb o’i theulu a ffrindiau.”
Gofyn am arian
Ar ôl i’r ‘berthynas’ ddatblygu, er bod Malan Wilkinson wedi bod yn ffeind yn gyrru rhoddion, dechreuodd y ddynes ofyn am arian hefyd.
Aeth pethau’n flêr wrth i’r ddynes wylltio, gan fod Malan Wilkinson yn gwrthod rhoi arian iddi.
Gyda’r holl beth wedi torri ei chalon, mae hi bellach yn rhybuddio am y bobol sy’n twyllo ‘cariadon’ dros y rhyngrwyd, a bod y bobol yma yn gyfrwys ac yn gweithio mewn grwpiau mawr.
“Fe brynais i gadwyn aur iddi ond bostiais i ddim arian diolch byth,” meddai.
“Wnes i atal rhag gwneud hynny ar ôl i deulu bwyso arna i i fod yn ofalus.
“Ond ar ôl i’m ffrind Facebook fynd yno a gwario, roedd pwysau cynyddol arna i i wneud hynny drwy app ffôn ac i dalu am becynnau gwê iddi.
“A phan o’n i’n egluro bod perthynas yn fwy na ‘phethau’ a mod i’n anghyfforddus gyda cyfeiriad pethau, fe drodd pethau’n hyll.
“Ro’n i’n berson ‘anfoesol, oer a chreulon’ oedd wedi gwastraffu ei hamser.
“Roedd siom y sylwi beth o’n i wedi cael fy hun yn rhan ohono fel llafn i’r galon.
“Roeddwn dros fy mhen a clustiau ers misoedd lawer.
“Ro’n i’n teimlo’n wirion, yn llawn cywilydd ac yn naïf.
“Maen nhw’n deall gwerth y bunt yn well na ni, ac yn deall bod pobol sydd mewn cariad, yn aml, hefyd mewn gwendid.
“I mi, roedd twyllo yn golygu rhywun ar-lein oedd ‘ddim yn bodoli go iawn’ neu ddatganiadau ffug.
“Ond roedd hi’n bodoli, roedd hi’n chwarae pêl-droed.
“Ro’n i’n ei gweld bob dydd, ynghyd â’i ffrindiau a’i theulu.
“Mae’r twyllo yn digwydd yno ar lefel soffistigedig, ac yn aml mae grwpiau’n gweithio gyda’i gilydd.
“Mae’r cyfan wedi bod yn brofiad anodd ac emosiynol.
“Ond rhaid i mi nawr ffeindio ffordd o symud ymlaen, gwneud heddwch rywsut gyda’r bennod ac edrych yn fy mlaen.”