Mae Mark Williams, cyn-Aelod Seneddol Ceredigion, wedi cael ei ddewis gan y Democratiaid Rhyddfrydol i frwydro’r sedd yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Roedd yn cynrychioli’r etholaeth yn enw’r blaid rhwng 2005 a 2017, ac yn arweinydd ar ei blaid hefyd.

Mae’n byw yn y Borth gyda’i wraig Helen a’u pedwar o blant, lle maen nhw’n rhedeg Hwb Cymunedol.

Ers 2017, ailgydiodd yn ei yrfa fel athro, gan barhau’n weithgar yn y gymuned gyda sawl mudiad ac elusen.

“Cymaint o botensial” yng Ngheredigion

“Dw i wrth fy modd o fod yn ymgeisydd arnom unwaith eto yn fy etholaeth gartref, lle’r ydyn ni’n byw, lle mae fy mhlant wedi’u magu ac wedi ffynnu, a lle dw i’n credu’n angerddol y mae ganddo gymaint o botensial,” meddai Mark Williams.

“Mae Ceredigion yn lle hyfryd i fyw, ond yn rhy aml caiff ei anwybyddu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn San Steffan a Llywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd.

“Dyna pam fod angen llais cryf ar Geredigion i’w hybu yn y senedd, a dyna pam y byddaf yn gweithio’n galed i adennill y sedd a rhoi buddiannau Ceredigion yn gyntaf.

“Fe fu sefyll i fyny dros gymunedau lleol yn nodwedd sy’n diffinio’r Democratiaid Rhyddfrydol erioed.”

‘Uchel ei barch’

“Dw i wrth fy modd fod Mark wedi cael ei ddewis fel ein hymgeisydd yn San Steffan ar gyfer yr etholiad nesaf,” meddai’r Cynghorydd Elizabeth Evans, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Gyngor Sir Ceredigion.

“Dw i, ynghyd â’m cydweithwyr ar grŵp y Cyngor, yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ymgyrchu gyda Mark ar faterion sydd o’r pwys mwyaf i drigolion a busnesau’r sir.

“Mae Mark yn ymgyrchydd ymroddedig, a dydy e ddim wir wedi tynnu ei droed oddi ar y sbardun unwaith ers gadael San Steffan, gan weithio yn ei gymuned leol ac ymgyrchu ar draws y sir ar nifer o faterion.

“Mae Mark yn uchel ei barch, gyda record wedi’i phrofi o ran gwneud pethau.

“Dw i’n gwybod na all e aros i fynd yn ôl ar y llwybr ymgyrchu.”

‘Gobaith gwirioneddol o adennill y sedd’

“Dw i wrth fy modd o weld fod Mark Williams wedi’i ailddewis i sefyll fel ein hymgeisydd yng Ngheredigion, lle mae gennym ni obaith gwirioneddol o adennill y sedd,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Mae gan Mark y profiad, y symbyliad a’r tosturi i fod yn llais croch dros Geredigion yn San Steffan, ac mae ganddo fy nghefnogaeth lawn fel arweinydd y blaid ac fel Aelod o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

“Dw i’n edrych ymlaen at fwrw iddi i ymgyrchu i gael Mark yn ôl yn y senedd.”