Mae dros 75% o bobol yng Nghymru’n cefnogi newidiadau i’r Mesur Ynni er mwyn sicrhau bod modd gwahardd gorfodi aelwydydd i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu (PPM).
Daw’r ymchwil gan yr ymgyrch Cynnes y Gaeaf hwn, sy’n dangos bod 47% o blaid gwaharddiad parhaol ar orfodi aelwydydd i ddefnyddio mesuryddion i sicrhau bod pobol yn talu eu dyledion, tra bod 33% yn rhagor yn cefnogi gwaharddiad tra bod biliau ynni yn aros yn uchel.
Bydd y Mesur Ynni yn cael ail ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin ar Fai 9, a dydy gwaharddiad ddim yn debygol ar hyn o bryd er gwaetha’r ffaith fod 69% o bobol yn bryderus iawn neu rywfaint yn bryderus ynghylch y mesuryddion a’r sgandal fuodd yn eu cylch yn gynharach eleni.
Drwy gydol yr ymchwiliad, rhoddodd cwmnïau ynni sicrwydd i ymgyrchwyr, gweinidogion, aelodau seneddol a’r cyfryngau na chafodd y mesuryddion hyn eu defnyddio ar gwsmeriaid bregus.
Fodd bynnag, profodd ymchwiliad cudd The Times i ddefnydd Nwy Prydain o PPMs nad oedd hyn yn wir.
Yn ddiweddar, mae cwmnïau ynni wedi ymrwymo i god ymddygiad gwirfoddol newydd, gafodd ei gynllunio i lywodraethu gosod mesuryddion rhagdalu dan orfodaeth.
Mae hyn i fod i ddod i rym o Hydref 1, ond mae’r Glymblaid Dileu Tlodi Tanwydd yn dadlau nad yw’r canllawiau’n mynd yn ddigon pell, yn methu ag amddiffyn grwpiau hynod agored i niwed ac yn methu â helpu i fynd i’r afael â dyledion ynni cynyddol.
‘Calonogol’
“Mae’n galonogol gweld y byddai dros dri chwarter o’r cyhoedd yng Nghymru yn cefnogi newidiadau i’r Bil Ynni i sicrhau y gall Llywodraeth y Deyrnas Unedig wahardd trosglwyddo cartrefi dan orfod i fesuryddion rhagdalu,” meddai Bethan Sayed o Climate Cymru.
“Dyna pam y mae gwaith pwyllgor deisebau’r Senedd yn y maes hwn mor hanfodol – craffu ar y cwmnïau ynni ac Ofgem, a dweud wrthynt, ‘Digon yw digon’.
“Ni fyddwn yn goddef gaeaf arall lle mae pobol yn cael eu trin mewn ffordd mor warthus gan gwmnïau ynni elw mawr sy’n gallu fforddio cefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.”
‘Proses annynol’
“Yn ystod sgandal PPMs, honnodd yr Ysgrifennydd Gwladol nad oedd ganddo’r pŵer i wahardd trosglwyddo cartrefi dan orfodaeth i PPMs,” meddai Simon Francis, cydlynydd y Gynghrair Dileu Tlodi Tanwydd.
“Byddem yn annog gwleidyddion i gefnogi symudiadau i roi’r pwerau hyn i’r Llywodraeth ddiogelu’r rhai mwyaf agored i niwed rhag y broses annynol hon.”
Mae gwelliant i’r Mesur Ynni i roi’r grym i weinidogion wahardd mesuryddion rhagdalu gorfodol wedi’i gyflwyno gan Anne McLaughlin, y cadeirydd Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Fesuryddion Rhagdalu ac y gofynnir i aelodau seneddol eu cefnogi.
Mae cynlluniau ar gyfer gwelliant i’r Bil i wahardd mesuryddion rhagdalu gorfodol yn cael eu cefnogi gan y Glymblaid Dileu Tlodi Tanwydd a’r ymgyrch Cynnes y Gaeaf Hwn, ddechreuodd yr wythnos diwethaf weithred dorfol i berswadio aelodau seneddol i gefnogi gwelliannau fyddai’n helpu i wella system ynni doredig Prydain.
Mae cynlluniau ar gyfer gwelliant i’r Bil i wahardd mesuryddion rhagdalu gorfodol yn cael eu cefnogi gan y Glymblaid Dileu Tlodi Tanwydd a’r ymgyrch Cynnes y Gaeaf Hwn, ddechreuodd yr wythnos ddiwethaf weithred dorfol i berswadio aelodau seneddol i gefnogi gwelliannau fyddai’n helpu i wella system ynni doredig Prydain.
“Mae gorfodi pobol sydd mewn dyled i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu yn ychwanegu at y cywilydd, y stigma a’r trawma y maent yn aml yn eu profi,” meddai Eva Watkinson o Debt Justice.
“Rhaid i’r llywodraeth wahardd yr arfer ffiaidd hwn yn awr a dileu dyledion nad ydynt yn daladwy.”
Yn ôl Tessa Khan o Uplift, “mae’r Mesur Ynni yn ôl yn Nhŷ’r Cyffredin, ond ar hyn o bryd, mae’n gyfle a gollwyd i ddechrau trwsio ein system ynni sydd wedi torri.”