Ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Ffibromyalgia heddiw (dydd Gwener, Mai 12), mae dynes sydd â’r cyflwr yn dweud nad oedd gwasanaeth Cymraeg wrth iddi gael diagnosis, a’i bod yn “siomedig” am hynny.

Yn ôl Diane Thomas, sy’n wreiddiol o Gaernarfon ond bellach yn byw gerllaw ym Methel, does dim help wedi cael ei gynnig iddi chwaith, oni bai am gyngor i chwilio am grwpiau ar y cyfryngau cymdeithasol a chael tabledi cysgu.

Cafodd ddiagnosis yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno yn 2017, ac mae’r cyflwr yn cael cryn effaith arni, meddai.

Mae ffibromyalgia yn gyflwr hirdymor sy’n achosi poen ar hyd y corff, a gall achosi symptomau eraill fel cyhyrau stiff, trafferth cysgu, cur pen a niwl ar yr ymennydd.

“Doedd yna ddim Cymraeg o gwbl yn fy sefyllfa, dim mewn ymweliad doctor na llythyrau,” meddai Diane Thomas wrth golwg360.

“Roeddwn i braidd yn siomedig gan fy mod yn ffeindio hi dipyn haws esbonio fy hun yn fy mamiaith.

“Doedd yna ddim help o gwbl pan gefais ddiagnosis a does dim help hyd heddiw.

“Mae’r doctoriaid fel tasan nhw golchi dwylo oddi wrtha chdi ar ôl diagnosis, gan fod neb yn gwybod llawer am y cyflwr, na beth all helpu.

“Mae llawer o ddoctoriaid wedi bod yn meddwl mai ym meddyliau cleifion oedd y broblem a bod yna ddim cyflwr go iawn.

“Dw i’n falch o ddweud bod ffibromyalgia yn cael mwy o sylw dyddiau yma.”

Diffyg cefnogaeth

Ar ôl cael diagnosis o’r cyflwr, mae Diane Thomas yn dweud na chafodd gymorth oni bai am bresgripsiwn tabledi cysgu gan ei meddyg teulu.

“Roedd gen i grydcymalau yn fy asgwrn cefn a chluniau, ond roedd poenau annioddefol oedd ddim yn gysylltiedig â’r crydcymalau, felly cefais fy ngweld yn adran riwmatoleg Ysbyty Cyffredinol Llandudno, a gwnaethon nhw brofion wythnos neu ddwy wedyn.

“Cefais i lythyr drwy’r post efo’r diagnosis a dim byd mwy.

“Fe wnes i ffonio ysgrifenyddes yr ymgynghorydd i ofyn beth oedd y cam nesaf, beth fyswn yn gallu gwneud ynghylch y boen yma bob dydd.

“Yr ateb gefais i oedd mynd ar gyfryngau cymdeithasol a ffeindio grwpiau self help.

“Dydw i dal heb dderbyn dim math o gyngor na help gan neb ers y diagnosis.”

Symptomau

Mae Diane Thomas yn dioddef o nifer o symptomau sydd yn gysylltiedig â’r cyflwr.

“Mae fy symptomau yn amrywio… Dim egni, poen ym mhob cyhyr, problemau bowel, diffyg cofio pethau, ddim nerth yn fy mreichiau o gwbl, ac weithiau gwendid yn fy nghoesau a hefyd diffyg cwsg,” meddai.

“Pan dw i’n cael be’ maen nhw yn ei alw yn flare, alla i ddim codi fy mhen oddi ar y gobennydd a dw i mewn andros o boen drwy fy nghorff i gyd, o fodiau fy nhraed i fy mhen.

“Mae hyd yn oed fy llygaid yn brifo.

“Mae’n rhaid gorffwys am gyfnod y flare mewn ystafell ddistaw, dywyll.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am ymateb.