Bydd Plac Porffor yn cael ei ddadorchuddio heddiw (dydd Gwener, Mai 12) i anrhydeddu un o fenywod mwyaf blaenllaw’r mudiad llafur yng Nghymru yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.
Cafodd Rose Davies ei geni yn Aberdâr, a daeth yn ymgyrchydd addysg amlwg ac yn wleidydd lleol blaenllaw yn y de.
Hi oedd y fenyw gyntaf i gael ei hethol i Gyngor Sir Forgannwg, a hi hefyd oedd y fenyw gyntaf i gadeirio’r Cyngor.
Bydd y plac yn cael ei ddadorchuddio yn Amgueddfa Cwm Cynon yn Aberdâr am 1yp, a hwn fydd deuddegfed Plac Porffor Cymru.
Syniad Julie Morgan a Jane Hutt, dwy Aelod Llafur o’r Senedd, oedd y cynllun yn wreiddiol, a’i nod yw tynnu sylw at lwyddiannau menywod Cymru sy’n aml wedi eu hanghofio.
Rose Davies
Roedd Rose Davies o blaid cydraddoldeb i fenywod a chreu gwasanaeth cynllunio teuluol, ac roedd ganddi ddiddordeb arbennig mewn diwallu anghenion addysgol plant ag anableddau corfforol ac anghenion addysgu.
Roedd hi’n ymgyrchydd heddwch amlwg hefyd, a hi wnaeth y cynnig ffurfiol ar gyfer Deiseb Heddwch Menywod mewn cynhadledd arbennig yn Aberystwyth yn 1923.
Ar hyn o bryd, mae Cymru’n dathlu canmlwyddiant y Ddeiseb, gafodd ei llofnodi gan dros 400,000 o fenywod Cymru a’i gyrru at fenywod yr Unol Daleithiau.
Dechreuodd Rose Davies ymwneud â gwleidyddiaeth trwy ei gwaith fel athrawes ac fel aelod o Ffederasiwn Cenedlaethol yr Athrawon Benywaidd.
Ymunodd â’r Blaid Lafur Annibynnol a daeth yn ffrindiau â’r Aelod Seneddol lleol, Keir Hardie, a chafodd ei henwebu i fynd i gyfarfod Cynghrair y Cenhedloedd yn Genefa yn 1930.
‘Ysbrydoli menywod’
Bydd y plac er cof amdani’n cael ei ddadorchuddio gan ei hwyres, Rosemary Davies.
“Rydyn ni’n falch iawn bod ein mam-gu arbennig, Rose Davies, yn derbyn Plac Porffor gan alluogi i’w hetifeddiaeth barhau i genedlaethau’r dyfodol,” meddai ei hwyres.
“Ein gobaith yw y bydd hi’n ysbrydoli menywod i barhau â’r gwaith y gwnaeth hi mor llwyddiannus yn ystod ein hoes.”
‘Gwaith rhagorol’
Dywed Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, fod Rose Davies yn “arloeswraig yng ngwir ystyr y gair”.
“Fe greodd ei gwaith rhagorol a’i hymrwymiad i newid cymdeithasol etifeddiaeth sy’n dangos sut y gall pob merch a phob menyw greu newid a thorri ffiniau,” meddai.
“Hoffwn ddiolch i Bwyllgor Placiau Porffor Cymru am y cyfle i ddathlu bywyd ysbrydoledig Rose.
“Mae’r plac pwysig hwn yn ysbrydoliaeth i ferched a menywod ledled Cymru i ddilyn eu breuddwydion ac i frwydro dros yr hyn maen nhw’n ei gredu.”