Mae disgwyl i gynghorwyr ddod i benderfyniad ar enwau tair ysgol newydd ym Mhontypridd yn fuan.

Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf sy’n cael ei gynnig ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Rhydyfelin.

Ar gyfer yr ysgol 3-16 oed newydd ym Mhontypridd, yr enw newydd fyddai Ysgol Bro Taf, ac Ysgol Afon wen sy’n cael ei gynnig ar gyfer ysgol newydd yn y Ddraenen Wen.

Fe fydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i gabinet Rhondda Cynon Taf ddydd Llun (15 Mai 15), ac yn argymell bod cynghorwyr yn cymeradwyo’r enwau sydd wedi’u cyflwyno gan gyrff llywodraethu dros dro’r ysgol.

Y bleidlais

Dywedodd adroddiad y cabinet fod Ysgol Afon Wen wedi derbyn y nifer uchaf o bleidleisiau (36%) yn yr ymgynghoriad ar enw’r ysgol newydd yn y Ddraenen Wen, a oedd yn adlewyrchu canlyniad yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gyda disgyblion a staff yn y tair ysgol sy’n cael eu heffeithio.

Dywed fod Ysgol Pontypridd wedi derbyn y nifer uchaf o bleidleisiau (40%) ac yna Ysgol Bro Taf (17%) yn yr ymgynghoriad ar enw’r ysgol newydd ym Mhontypridd.

Ond doedd hyn ddim yn adlewyrchu canlyniadau’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gyda disgyblion a staff yr ysgolion yr effeithiwyd arnyn nhw, oedd yn ffafrio Ysgol Bro Taf.

Ar gyfer yr ysgol Gymraeg newydd yn Rhydyfelin, dywedodd yr adroddiad mai Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Y Taf oedd wedi derbyn y nifer uchaf o bleidleisiau (52%).

Roedd yr adroddiad yn dweud bod llywodraethwyr wedi nodi yn y cyfarfod mai’r enw gramadegol cywir fyddai Awel Taf, ac mae’r enw hwnnw’n adlewyrchu canlyniad yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gyda disgyblion a staff y ddwy ysgol sy’n cael eu heffeithio.

Pryderon am wisgoedd a lleoliad

Dywedodd yr adroddiad hefyd bod pryderon wedi codi o ran cost gwisgoedd a brandio newydd. Bydd y pryderon hyn yn cael eu trafod ymhellach gan gyrff llywodraethu dros dro yn ystod tymor yr haf 2023, a bydd proses briodol yn cael ei dilyn yn unol â holl ganllawiau Llywodraeth Cymru, meddai.

Ynghyd â hynny, cododd pryderon ynghylch lleoliadau rhai o’r ysgolion newydd ond dywedodd yr ymgynghorwyr eu bod wedi mynd i’r afael â hwy yn flaenorol yn yr ymgynghoriad trefniadau ysgolion statudol, a gymeradwywyd gan y cabinet ym mis Gorffennaf 2019.