Bydd un o bwyllgorau’r Senedd yn ceisio cael atebion gan benaethiaid cwmnïau ynni am y sgandal mesuryddion rhagdalu ddydd Llun (15 Mai).
Ym mis Chwefror, datgelodd cyfres o ymchwiliadau fod cwmnïau ynni’n defnyddio asiantaethau casglu dyledion i osod mesuryddion rhagdalu mewn cartrefi a oedd ar ei hôl hi o ran taliadau debyd uniongyrchol.
Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru, mae tua 200,000 o aelwydydd yng Nghymru ar fesuryddion rhagdalu, gan gynnwys 45% o denantiaid tai cymdeithasol.
Mae mesuryddion rhagdalu yn ddrytach na debydau uniongyrchol, gyda thaliadau sefydlog ar gyfer trydan a nwy yn uwch, a’r pris fesul uned am nwy yn ddrytach, hefyd.
O ganlyniad, cafodd miloedd o bobol oedrannus a bregus eu gorfodi i dalu am ynni cyn ei ddefnyddio, gan olygu bod llawer yn methu â chynhesu eu cartrefi drwy’r gaeaf.
Mewn ymateb, lansiwyd deiseb ar wefan y Senedd gan Climate Cymru ac ymgyrchwyr eraill yn galw am ymchwiliad i arferion cwmnïau ynni.
Yn sgil hynny, bydd y Pwyllgor Deisebau yn holi swyddogion gweithredol cwmnïau ynni ynghylch a yw pobol sy’n agored i niwed bellach yn ddiogel rhag cael eu gorfodi i newid i fesuryddion, ac a ddylid gwahardd yr arferiad yn gyfan gwbl.
‘Straeon dirdynnol’
Yn ôl Jack Sargeant Aelod o’r Senedd Llafur a Chadeirydd y Pwyllgor Deisebau: “Dw i wedi clywed straeon dirdynnol gan etholwyr sy’n cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu, a hynny yn erbyn eu hewyllys.
“Rydyn ni’n gwybod fod miloedd ar draws Cymru wedi dioddef tymheredd rhewllyd drwy’r gaeaf, gan na allen nhw fforddio troi’r gwres ymlaen.
“Roedd ymddygiad cwmnïau ynni yn destun pryder mawr ac er gwaethaf eu haddewidion diweddar i newid y ffordd y maen nhw’n gweithredu, fe fydd y Pwyllgor yn benderfynol o’u holi ynghylch pam iddyn nhw fod o’r farn y gellid cyfiawnhau eu gweithredoedd yn y lle cyntaf.
“Ni ddylai’r un person gael ei roi mewn sefyllfa lle maen nhw’n ofni troi’r gwres ymlaen ac er bod y cwmnïau wedi newid eu ffyrdd o weithio, rydyn ni eisiau bod yn sicr na fydd pobol fregus yn wynebu’r un problemau’r flwyddyn nesaf.”