Bydd rali wrth-hiliaeth yn cael ei chynnal yn Aberystwyth ddydd Sadwrn (Mai 13), gyda chyfraniadau gan bobol sydd wedi cael eu heffeithio gan hiliaeth.

Cangen Aberystwyth o Safwn yn Erbyn Hiliaeth sy’n gyfrifol am drefnu’r rali, ac mae’r trefnwyr yn awyddus i bobol ddangos eu bod nhw yn erbyn hiliaeth.

Daw’r rali wrth i Heddlu Dyfed-Powys apelio am wybodaeth wedi i graffiti hiliol, gwrth-Semitaidd a homoffobig ymddangos mewn dau leoliad yn Aberaeron.

Cafodd y difrod ei wneud i gysgodfan sy’n cael ei adnabod yn lleol fel ‘Duck Stop’, a’r Well sydd ochr arall i’r afon ger y fynedfa i Gylch Aeron rywbryd rhwng Ebrill 28 a Mai 5.

Fel cymuned leiafrifol o siaradwyr Cymraeg, mae’n hollbwysig bod pawb yn tynnu ynghyd yn erbyn hiliaeth ac yn dangos ei bod yn frwydr i bob rhan o gymdeithas, meddai Hywel Jenkins, un o’r trefnwyr.

Mae’r siaradwyr yn cynnwys Talat Chaudhri, maer Aberystwyth; Nimi Trivedi o Unsain a Changen Cymru o Safwn yn Erbyn Hiliaeth, a Bayanda Vundamina, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, ymysg eraill, a bydd y rali yn dechrau am 1 y prynhawn yng Ngerddi’r Castell.

Cymunedau lleiafrifol

Mae angen “i rai ddeffro a sylweddoli taw dim problem i bobol mewn dinasoedd ymhell i ffwrdd yw hiliaeth”, meddai Hywel Jenkins, gan ddweud ei fod yn bodoli ledled Cymru gan gynnwys yn ardaloedd mwy gwledig y gorllewin a’r canolbarth.

“Mae angen i ni, fel cymunedau lleiafrifol yn enwedig, dynnu at ein gilydd yn erbyn hiliaeth a dangos ei fod yn frwydr i bob rhan o gymdeithas,” meddai wrth golwg360.

“Dyna’r unig ffordd i frwydro hiliaeth yw i godi ein lleisiau fel un a bod yn wrth-hiliol yn ein bywydau dyddiol.”

Mae brwydro hiliaeth yn cynnwys hiliaeth sefydliadol, ychwanegodd.

“Mae’n bwysig i ni sefyll gyda’n gilydd a bod yn wrth hiliol ym mhob rhan o’n bywyd.

“Mae hiliaeth ei hun yn broblem sydd wedi cael ei chreu gan gymdeithas, a chydweithio fel cymdeithas yw’r unig ffordd o chwalu’r hiliaeth sy’n bodoli.

“Heb fod sefydliadau yn gwneud newidiadau strwythurol i ddelio gyda hynny mae hiliaeth yn anffodus yn mynd i waethygu os rywbeth.”

‘Cydnabod yw’r cam cyntaf’

Bydd cyfle yn y rali i glywed gan rai sydd wedi cael eu heffeithio gan hiliaeth, gan gynnwys gŵr busnes o Aberystwyth, Phil Powell.

Bydd Camilla Mngaza, mam Siyanda Mngaza, yn siarad yn y rali hefyd. Cafodd Siyanda Mngaza ei charcharu am bedair blynedd yn 2020 am achosi niwed corfforol difrifol yn Aberhonddu pan oedd hi’n 20 oed.

Mae’r ymgyrch Rhyddhau Siyanda yn dadlau ei bod hi’n amddiffyn ei hun rhag ymosodiad hiliol, ac er ei bod hi wedi cael ei rhyddhau o’r carchar erbyn hyn maen nhw am glirio ei henw.

“Mae gyda ni siaradwyr hynod o gryf sydd yn gallu rhannu eu profiadau eu hunain a rhai sydd yn eirioli ar ran eraill ynglŷn â phrofiadau,” meddai Hywel Jenkins.

“Mae gwrando arnyn nhw yn eirioli ar y profiadau yna yn dod â’r gwirionedd yn agos iawn i’r galon.

“Hyd yn oed yng ngorllewin Cymru a’r canolbarth mae problem gyda hiliaeth, ambell waith mae pobol yn teimlo ei fod yn bell i ffwrdd o’r gymdeithas yma.

“Dydy hynny ddim yn wir, mae angen i ni gydnabod hynny. Y cam cyntaf yw cydnabod.

“Tan ein bod ni wedi cydnabod hynny dydyn ni ddim yn gallu symud ymlaen a gweithio gyda’n gilydd i oresgyn y broblem yma o hiliaeth yn ein cymdeithas.”