Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i ddigwyddiad ddoe (dydd Mercher, 10 Mai) pan gafodd dyn ei gludo i’r ysbyty ar ôl cael ei arestio ym Mhorthmadog yng Nghwynedd.

Mae fideo wedi’i rhannu ar gyfryngau cymdeithasol o’r dyn yn cael ei daro sawl gwaith wrth iddo gael ei arestio.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn ymwybodol o fideos sy’n cylchredeg ar gyfryngau cymdeithasol sy’n dangos swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yn arestio dyn 34 oed o ardal Porthmadog yn gynharach heddiw (dydd Mercher, 10 Mai).

“Wedi hynny, cludwyd y sawl a ddrwgdybir i’r ysbyty a’i asesu gan staff meddygol cyn iddo gael ei drosglwyddo i ddalfa’r heddlu.

“Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio’n llawn i’r mater hwn ar hyn o bryd a bydd diweddariadau pellach yn cael eu cyhoeddi maes o law.”