Mae Llyr Gruffydd, Aelod o’r Senedd dros ranbarth y Gogledd, wedi’i enwebu’n unfrydol gan Grŵp Senedd Plaid Cymru yn Arweinydd Dros Dro’r blaid, yn amodol ar gadarnhad gan Gyngor Cenedlaethol y blaid ddydd Sadwrn (13 Mai).
Daw hyn ar ôl y cyhoeddiad neithiwr (dydd Mercher, 10 Mai) y bydd Adam Price yn rhoi’r gorau i fod yn Arweinydd y blaid unwaith y bydd trefniadau interim yn eu lle.
Fe wnaeth y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol gymeradwyo cynnig sy’n caniatáu i Grŵp Senedd Plaid Cymru wahodd enwebiadau ar gyfer swydd yr Arweinydd dros dro heddiw.
Bydd Cyngor Cenedlaethol Plaid Cymru yn cyfarfod ddydd Sadwrn i gadarnhau’r penderfyniad.
Bydd Arweinydd newydd yn ei le yn yr haf a bydd amserlen yn amlinellu’r broses o ethol Arweinydd parhaol yn cael ei chyflwyno i aelodau’r blaid cyn gynted â phosibl.
‘Meithrin gwell diwylliant o fewn y blaid’
“Rwy’n ddiolchgar i Grŵp Senedd Plaid Cymru am fy enwebu fel Arweinydd Gweithredol Etholedig,” meddai Arweinydd Gweithredol Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
“Hoffwn ddiolch i Adam ar ran Grŵp Senedd Plaid Cymru am ei weledigaeth, ei ymrwymiad, a’i ymroddiad dros y pedair blynedd diwethaf.
“Ein ffocws nawr yw symud ymlaen gyda’n gilydd i gyflawni ar ran pobol Cymru, a meithrin gwell diwylliant o fewn y blaid.
“Rwy’n gobeithio y bydd yr aelodau’n ymddiried ynof i’r cyfrifoldeb o arwain y gwaith hwnnw nes i ni ethol arweinydd newydd.”