Gallai safle hen bwerdy niwclear Trawsfynydd fod yn addas ar gyfer datblygu prosiectau niwclear bychan, yn ôl y cwmni sy’n gyfrifol am ddatblygu’r safle.
Daw’r cyhoeddiad wedi i Gwmni Egino gwblhau cam cyntaf y gwaith datblygu, sydd wedi cadarnhau hyfywedd y safle yng Ngwynedd ar gyfer Adweithyddion Modiwlaidd Bychan (SMRs).
Byddai potensial i’r SMRs gynhyrchu hyd at 1GW o drydan ar y safle, gan gyfrannu amcangyfrif o £1.3 biliwn i economi Cymru dros y 60 mlynedd eu hoes.
Yn ôl yr amcangyfrifon gallan nhw greu dros 400 o swyddi hirdymor yn yr ardal a thros £600m o werth gros ar gyfer gogledd orllewin Cymru a £1.3 biliwn ar gyfer Cymru gyfan.
Mae’r “modiwlaidd” yn yr enw’n golygu bod yr SMRs am gael eu hadeiladu mewn ffatrïoedd ymhell o Drawsfynydd, cyn cael eu gosod ar safle’r hen atomfa sy’n cael ei datgomisiynu ers 1995.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi pwyslais ar ynni niwclear fel ffynhonnell ynni gwyrdd, er bod gwrthwynebwyr yn dweud bod darlunio Adweithyddion Modiwlaidd Bach (SMRs) fel ateb i newid hinsawdd yn “gamarweiniol”.
‘Cyfle mwyaf credadwy’
Dywedodd Alan Raymant, Prif Weithredwr Cwmni Egino, bod defnyddio SMRs yn Nhrawsfynydd yn “cynnig cyfle mewnfuddsoddi enfawr i Gymru”, ac i fodloni “anghenion ynni a thargedau sero net”.
“Credwn fod Trawsfynydd yn rhoi’r cyfle cyntaf, mwyaf credadwy i roi hwb i raglen hirdymor o brosiectau niwclear bychan yn y Deyrnas Unedig, ac yn sbarduno twf economaidd sylweddol yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol,” meddai.
“Mae Cwmni Egino yn cynnig cyfrwng datblygu i wthio hyn yn ei flaen.
“Mae ein cynlluniau yn fwy datblygedig na safleoedd eraill sy’n addas ar gyfer niwclear ar raddfa fach, ac mae’r gwaith rydyn ni wedi’i wneud yn ystod y deuddeg mis diwethaf yn rhoi hyder pellach i ni y gallwn gyflwyno prosiect yn llwyddiannus yn Nhrawsfynydd.
“Rydyn ni eisoes wedi rhoi rhaglen ddatblygu pum mlynedd yn ei le sy’n golygu y gall ein prosiect fod yn barod i’w gymeradwyo erbyn rhan olaf y degawd hwn – sy’n cyd-fynd â dyheadau diogelwch ynni Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”
Dydy Cwmni Egino heb ddewis partner technolegol ar gyfer y prosiect eto, ond maen nhw’n awyddus i weithio efo’r Great British Nuclear (GBN), corff a gafodd ei ffurfio gan Lywodraeth San Steffan er mwyn arwain y gystadleuaeth ym maes technegol SMRs.
“Byddan ni’n gweithio’n agos gyda GBN yn ystod y misoedd nesaf i gadarnhau’r ateb technoleg sy’n gweddu orau i Drawsfynydd o fewn y broses ddethol gyffredinol ar gyfer rhaglen y Deyrnas Unedig.
“Y maes ffocws allweddol arall i ni nawr yw sicrhau ymrwymiad y Llywodraeth tuag at gam nesaf y prosiect.
“Yn arbennig, mae angen i ni gael cadarnhad bod Trawsfynydd yn un o’r prosiectau y mae GBN eisiau ei ddatblygu.”
‘Adfywio’r diwydiant’
Mae Cymdeithas y Diwydiant Niwclear wedi croesawu’r cyhoeddiad gan ddweud ei fod yn “gam pwysig” i ddyfodol niwclear gogledd orllewin Cymru.
“Mae gan Drawsfynydd draddodiad niwclear cryf ac mae yna gyfle gwirioneddol i adfywio’r diwydiant er mwyn dod â swyddi da a buddsoddiad i’r ardal,” meddai’r Prif Weithredwr Tom Greatrex.
“Mae gan SMRs y potensial i chwarae rhan allweddol wrth ddarparu ynni glân i Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig, a phweru tai a diwydiannau mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad.
“Mae hi’n bwysig bod sefydliadau fel Cwmni Egino yn cael y gefnogaeth iawn fel bod prosiectau niwclear newydd yn gallu datblygu.”
‘Bygythiad i iechyd’
Mae gan Cadno, grŵp sy’n gwrthwynebu datblygiad SMRs yn Nhrawsfynydd, bryderon ynghylch diogelwch yr adweithydd, y gwastraff ymbelydrol, a phwy fyddai’n ysgwyddo’r baich ariannol hefyd.
“Maen nhw’n trio dadlau bod yr SMRs ddim angen yr un lefel o ddiogelwch â gorsaf draddodiadol, maen nhw’n sôn bod yr ardal diogelwch jyst am fod yn ffens o amgylch [atomfa] Traws,” meddai Awel Irene ar ran y grŵp wrth drafod SMRs gyda golwg360 llynedd.
“Yn barod, mae pobol yn poeni am lefel canser yn yr ardal, ac yn teimlo eu bod nhw’n defnyddio ni fel rhyw fath o arbrawf lle does yna neb arall yn fodlon cymryd SMRs. Os fysan nhw be oedden nhw fod, fysa hi’n well eu hadeiladu nhw wrth ymyl dinas, ond dydy neb eisiau un wrth ymyl dinas – technoleg dydyn nhw ddim wedi’i brofi’n barod.
“Dw i’n meddwl bod teimladau pobol am fod yn wahanol, mae Chernobyl a Fukushima wedi digwydd ers adeiladu Traws. Mae pobol lot fwy amheus ynglŷn â’r diwydiant niwclear.
“Mae o mor siomedig eu bod nhw’n codi gobeithion pobol mewn lle gwledig fel Meirionnydd sydd wirioneddol angen swyddi, ond nid swyddi sy’n fygythiad i iechyd pobol ac i’r ardal.”