Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn galw am gymorth ariannol i gwmni bwyd ym Mlaenau Gwent.

Daw’r alwad gan Peredur Owen Griffiths yn dilyn ansicrwydd am ddyfodol Tillery Valley Foods yng Nghwmtyleri am resymau ariannol.

Yn ôl yr Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli Dwyrain De Cymru, mae’r newyddion yn “ergyd drom i’r gymuned leol a thu hwnt”.

“I gyflogwr mor fawr a hirhoedlog, mae cael amheuon ynghylch ei ddyfodol yn ddinistriol,” meddai.

“Rwyf wedi cael gwybod gan aelod o staff bod y rhan fwyaf o’r gweithwyr yn lleol ac yn gallu cerdded i’r gwaith.

“Ychwanegodd fod nifer o’r gweithwyr hyn heb gar na thrwydded i yrru, sy’n golygu bod eu cyfleoedd i ddod o hyd i gyflogaeth arall yn hynod gyfyngedig.

“Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn eu gallu i ddiogelu bywoliaeth y gweithlu gweithgar ac ymroddgar hwn.

“Rwyf hefyd am i’r Llywodraeth wneud yr hyn allan nhw i archwilio’r posibiliadau o anfon cytundebau sector cyhoeddus yng Nghymru atyn nhw, gan fy mod yn gwybod bod llawer o’u gwaith yn cael ei wneud dros y ffin ar hyn o bryd.

“Drwy gynyddu caffael cyhoeddus yng Nghymru, polisi mae Plaid Cymru wedi bod yn ei ddilyn dros y degawd diwethaf, gallwn sicrhau bod mwy o swyddi’n cael eu gwarchod a bod busnesau newydd yn cael eu creu.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.