Bydd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn camu o’r neilltu unwaith fydd trefniant dros dro yn ei le.

Rhoddodd wybod i’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol am ei benderfyniad mewn cyfarfod neithiwr (nos Fercher, Mai 10).

Cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol gynnig yn caniatáu i Grŵp Senedd Plaid Cymru wahodd enwebiadau ar gyfer rôl yr Arweinydd Dros Dro yn eu cyfarfod heddiw (dydd Iau, Mai 11), yn amodol ar gadarnhad gan Gyngor Cenedlaethol y Blaid ddydd Sadwrn (Mai 13).

Bydd arweinydd newydd yn ei le yn yr haf, a bydd amserlen yn amlinellu’r broses o ethol arweinydd parhaol yn cael ei rhannu ag aelodau’r Blaid cyn gynted â phosib.

Llythyr

“Rydyn ni wedi llywio’r agenda ar gyfer newid mewn ffordd nad oes yr un wrthblaid o’n blaenau wedi breuddwydio gwneud,” meddai Adam Price mewn llythyr at Marc Jones, cadeirydd Plaid Cymru.

“Roedd y Cytundeb Cydweithio yn wirioneddol arloesol ac mae wedi dod â manteision fydd yn newid bywydau ein plant, ein teuluoedd a’n cyfeillion ar draws y wlad.

“Mae ein prif ysgogiad ni – annibyniaeth i Gymru – wedi torri’r glannau ar wleidyddiaeth y brif ffrwd ac erbyn hyn mae llaweroedd, o bob cwr ac o bob plaid, yn credu fel ninnau nad mater o os yw hyn, ond pryd.

“Mae fy ymrwymiad i’n gweledigaeth o wlad wedi’i thrawsnewid mor gryf ag erioed, a fy egni dros newid heb bylu dim.

“Rwy’n rhoi fy sicrwydd personol ichi y byddaf yn parhau i wasanaethu fy ngwlad, fy etholwyr a’n plaid gyda phenderfyniad a brwdfrydedd.”

‘Diolch’

“Ar ran Plaid Cymru hoffwn ddiolch i Adam am ei egni a’i weledigaeth dros y pedair blynedd a hanner diwethaf,” meddai Marc Jones.

“Mae ymrwymiad personol Adam i wneud Cymru yn genedl decach yn etifeddiaeth barhaol y gall ef a Phlaid Cymru fod yn falch ohoni.

“Drwy’r Cytundeb Cydweithio, sydd wedi ei saernïo gan Adam, mae Plaid Cymru wedi gallu gweithredu polisïau arloesol megis prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd, diwygiadau sy’n amddiffyn ein cymunedau’n well ac edrychwn ymlaen at Senedd fwy sy’n adlewyrchu’r Gymru hyderus.

“Wrth i ni ddechrau’r broses o ethol Arweinydd newydd byddwn yn canolbwyntio ein holl egni ar weithredu argymhellion Prosiect Pawb er mwyn meithrin diwylliant newydd o fewn y blaid, sy’n golygu y bydd hi’n fudiad llawr gwlad diogel a chynhywsol i bawb.”

Adroddiad

Fe wnaeth yr adroddiad Prosiect Pawb gan Nerys Evans ganfod methiannau yn arweinyddiaeth Adam Price wrth fynd i’r afael â honiadau o aflonyddu rhywiol a bwlio.

Ymhlith casgliadau’r adroddiad roedd y ffaith nad oes camau yn eu lle i sicrhau dull dim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol, a bod menywod wedi cael eu “gadael lawr” gan y blaid.

Roedd hefyd yn cyfeirio at achosion nad oedden nhw’n achosion unigol, a diwylliant o ofn wrth sôn am yr achosion hyn.

Fe wnaeth Adam Price ymddiheuro ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi.

Wrth siarad ar y rhaglen Sharp End ar ITV Cymru yr wythnos hon, dywedodd Llŷr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, nad oedd e’n gallu dyfalu beth fyddai pen draw’r sefyllfa.

“Does gen i ddim pelen grisial,” meddai, gan ychwanegu bod y mater yn un “corfforaethol ehangach”, ac nad oes modd rhoi’r bai “ar un unigolyn”.

“Mae’n gyfrifoldeb cilyddol, a gyda’n gilydd rŵan mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n ymateb mewn ffordd sy’n lleihau’r gweithgarwch yma yn y dyfodol,” meddai.

“Mae hynny’n golygu ein bod ni’n rhoi trefn arnon ni’n hunain.

“Mae’n broses mae sefydliadau eraill yn, neu wedi, mynd drwyddi.

“Ein cyfrifoldeb ni rŵan ydy sicrhau ein bod ni’n rhoi trefn arnon ni’n hunain, ac fel cadeirydd Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd, dw i’n benderfynol y byddwn ni’n canolbwyntio’n ddiwyro ar hynny dros y cyfnod nesaf.”