Mae grŵp ymgyrchu newydd sy’n galw am gael gwared ar y frenhiniaeth am gynnal protest ‘Nid fy Mrenin’ yng Nghaerdydd ar ddiwrnod Coroni Brenin Charles III.
Y gobaith yw denu tua 500 o bobol, meddai’r trefnwyr, sy’n cynnwys Bethan Sayed, cyn-Aelod Plaid Cymru o’r Senedd; Anthony Slaughter, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru; Ben Gwalchmai, cyd-sylfaenwyr Llafur dros Gymru Annibynnol; ac aelodau o Gynulliad y Bobol Caerdydd a mudiad Cymru Republic.
Bydd y criw yn cyfarfod ger cerflun Aneurin Bevan yn y brifddinas ddydd Sadwrn (Mai 6), ac yn gorymdeithio fyny Stryd y Frenhines am Gerrig yr Orsedd ym Mharc Biwt.
Yno, byddan nhw’n cynnal “cinio mawr gweriniaethol”, ac maen nhw’n annog pobol i ddod â phicnic efo nhw.
‘Symbol o anghydraddoldeb’
Fe wnaeth y grŵp gynnal protest tu allan i Gastell Caerdydd fis Medi y llynedd hefyd, pan fu’r Brenin Charles yn ymweld â’r ddinas.
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n deall pam bod gennym ni frenhiniaeth yn y wlad hon, mae pobol weithiau’n meddwl ei fod yn draddodiad neis ond yn amlwg y rheswm pam bod gennym ni frenhiniaeth yw ein bod ni ar un adeg i gyd yn weision heb ddim hawliau dynol,” meddai Adam Johannes o Gynulliad y Bobol Caerdydd wrth golwg360.
“Pan rydyn ni’n edrych ar hanes y teulu, mae’n hynod annymunol. Roedd y Guardian yn adrodd yn ddiweddar bod un o gyndeidiau Brenin Charles III yn berchen ar 200 o gaethweision o Affrica.
“Byddai rhai pobol yn dweud ein bod ni’n ddemocratiaeth nawr, ond rydyn ni’n meddwl bod y frenhiniaeth, mewn sawl ffordd, yn symbol o anghydraddoldeb a’r diffyg democratiaeth mewn rhannau o gymdeithas – dydyn ni ddim yn ethol pennaeth y wladwriaeth, ein rheolwyr.
“Mae herio’r frenhiniaeth fel herio’r holl ddiffyg democratiaeth sydd gennym ni – Gwasanaeth Cyfrinachol y Wladwriaeth Brydeinig, Tŷ’r Arglwyddi, ysgolion preifat, y ffaith bod y rhan fwyaf o gyfoeth yn nwylo cyn lleied o bobol.
“Mae gan y brenin bwerau cyfansoddiadol amrywiol a allai gael eu defnyddio mewn argyfwng cenedlaethol neu pe bai deadlock yn y senedd.
“Yn Awstralia yng nghanol y 1970au, roedd deadlock yn y senedd, ac roedd prif weinidog Llafur Awstralia ar y pryd eisiau etholiad i sortio’r deadlock. Fe wnaeth brenhines Awstralia ddiswyddo’r llywodraeth etholedig a’i newid am un adain dde.
“Dydyn ni heb gael y math yna o argyfwng cyfansoddiadol ym Mhrydain, ond mae gan y brenin bwerau arbennig i ddatrys sefyllfaoedd fel yna.
“Ond dydy’r frenhiniaeth ddim yn niwtral, maen nhw’n deulu cyfoethog sy’n llywodraethu felly a fydden nhw’n datrys y fath argyfyngau gan feddwl am y bobol neu am y sefydliad?”
Llai o groeso yng Nghymru?
Mae sawl pôl piniwn diweddar wedi dangos bod y gefnogaeth tuag at y teulu brenhinol yn gostwng dros wledydd Prydain, gydag un gan y National Centre for Social Research yn dangos bod 45% o’r rhai gafodd eu holi yn dweud y dylid cael gwared ar y frenhiniaeth, nad yw’n bwysig o gwbl, neu nad yw’n bwysig iawn.
Fodd bynnag, roedd pôl piniwn YouGov gafodd ei gomisiynu gan WalesOnline ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi eleni yn dangos bod y gefnogaeth yng Nghymru tuag at frenhiniaeth wedi aros yn eithaf cyson, gyda 28% yn dweud y bydden nhw’n hoffi cael gwared ar y teulu brenhinol.
Roedd y gefnogaeth tuag at frenhiniaeth ar ei hisaf ymysg pobol ifanc, a’r grŵp o bobol ifanc rhwng 16 a 24 oed oedd yr unig grŵp i fod â mwy na’u hanner eisiau cael gwared ar y frenhiniaeth.
“Pan wnaeth Brenin Charles ymweld â Chaerdydd ym mis Medi fe wnaeth ambell bapur cenedlaethol adrodd bod yna lai o groeso iddo yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig,” meddai Adam Johannes.
“Dw i’n gobeithio fedrith Cymru fod ar flaen y gad mewn symudiad gweriniaethol dros yr ynysoedd hyn i ysbrydoli pobol yn Lloegr a’r Alban a thu hwnt, yng ngwledydd y Gymanwlad, i gwffio dros weriniaeth.
“I genhedlaeth fy rhieni, roedd yna ryw fath o rwysg a dirgelwch yn perthyn i’r teulu, ond mae e wedi troi yn opera sebon. Dw i’n meddwl bod pobol yn colli diddordeb.
“Dydyn ni ddim yn meddwl ei bod hi’n ddigon i bobol ddatgysylltu [o’r wrth y frenhiniaeth], rydyn ni eisiau dadlau dros rywbeth gwell.
“Rydyn ni eisiau dadlau dros weriniaeth sosialaidd sydd gan gyfansoddiad fyddai’n rhoi sicrwydd bod gan bawb hawl i fwyd, tai ac incwm digonol, ac a fyddai’n ein helpu i greu cymdeithas fwy cyfartal.”
Bydd y Coroni yn cael ei ddangos ar sgrin fawr tu allan i Gastell Caerdydd, ac mae sawl digwyddiad wedi’u trefnu ar gyfer dydd Sul (Mai 7) i ddathlu’r achlysur gan gynnwys y castell yn agor eu drysau am ddim eto ar gyfer cynnal picnic.
Fe fydd cyngerdd y coroni’n cael ei ddangos ar sgrin fawr ym Mae Caerdydd ddydd Sul hefyd.