Tybed a yw brenhiniaeth Lloegr bellach yn talu’r pris am ddibynnu’n ormodol ar eilun addoli’r ddiweddar Frenhines ar hyd y blynyddoedd?
Yn ôl un o’r arolygon barn diweddaraf, mae’r gefnogaeth i’r teulu brenhinol yn is nag erioed, ar drothwy coroni’r brenin newydd.
Mae hefyd yn dangos bod y gefnogaeth yn amrywio’n sylweddol yn ôl oedran, gyda chenedlaethau iau yn llawer mwy difater. Efallai nad yw hyn yn gymaint â hynny o syndod.
Daw’n fwyfwy amlwg bellach fod marwolaeth y Frenhines Elizabell II ym mis Medi’r llynedd yn ddiwedd cyfnod. Byddai wedi bod yn anodd i neb gamu i’w hesgidiau ar y gorau. I ddechrau, ni ddylid bychanu gallu neb i gynnal poblogrwydd fel ‘seleb’ byd-eang am 70 mlynedd a mwy. Yn bwysicach na hynny, ni fydd gan y frenhiniaeth fyth stori debyg i’w ddweud am neb o’i holynwyr. Rhan gynyddol allweddol o apêl y Frenhines Elizabeth dros y blynyddoedd diwethaf oedd ei bod hefyd yn cynrychioli oes arall. Hi oedd y ddolen gyswllt olaf â chenhedlaeth yr Ail Ryfel Byd, a hefyd â’r cyfnod pan oedd gan Brydain ymerodraeth fyd-eang.
Bellach, â Phrydain ond cysgod o’r hyn a fu, mae’r un peth yn wir am olyniaeth frenhinol Lloegr yn ogystal.
Roedd un o golofnwyr y wasg Seisnig ar ôl angladd y Frenhines ym mis Medi yn honni bod yr holl enwogion a gwladweinwyr a ddaeth yno o bob rhan o’r byd yn arwydd bod ‘Prydain yn dal yn rym o bwys yn y byd’. Lol wirion, wrth gwrs, gan y gallwn fod yn sicr na fydd neb o’i holynwyr yn denu unrhyw bresenoldeb o’r fath.
Tra oedd hi fyw, roedd y sefydliad brenhinol yn elwa ar eilun addoliaeth ohoni – ond mae’n bur amlwg erbyn hyn eu bod wedi gor-ddibynnu ar hyn, a’r bwlch ar ei hôl yn fwy fyth o’r herwydd.
Hebddi hi, dyw’r frenhiniaeth yn ddim byd mewn cymhariaeth. Mae ‘Carlo’ wedi bod yn destun jôc i’r wasg boblogaidd ar hyd y blynyddoedd fel bod ei hygrededd wedi cael ei danseilio i raddau helaeth. Mae papurau cenedlaetholgar Seisnig wedi dangos llawer iawn mwy o elyniaeth tuag ato nag a wnaeth Dafydd Iwan erioed.
Heddiw, mae’r papurau newydd hyn yn rhoi llawer iawn o’u sylw i ffraeo rhwng y ddau frawd William a Harry, a rhai o’r papurau mwyaf teyrngar fel pe bai ganddyn nhw fwy o ddiddordeb mewn lladd ar Harry fel dafad ddu’r teulu nag ar y coroni ei hun.
Mae’r cyhoeddusrwydd llethol i’r teulu brenhinol bellach wedi mynd ymhell iawn i’w tanseilio. Pan fo gan y sefydliad brenhinol Seisnig ffrindiau fel y rhain, go brin fod angen i’w gwrthwynebwyr wneud dim.
Diffyg undod gweriniaethol
Gallwn ddisgwyl y bydd sawl un o wledydd y Gymanwlad yn cefnu ar frenhiniaeth Lloegr dros y blynyddoedd nesaf. Mae hyn am y rheswm syml bod eu teyrngarwch yn fwy i’r ddiweddar Frenhines nag i Brydain fel gwladwriaeth.
Er hynny, camgymeriad fyddai dychmygu bod y diffyg cefnogaeth i’r teulu brenhinol ar hyn o bryd yn debygol o arwain y ffordd at droi Prydain yn wladwriaeth weriniaethol.Yn eironig, efallai fod y difaterwch tuag atynt yn diogelu eu safle i raddau helaeth – oherwydd nad yw’r gwrthwynebiad yn ddigon cryf i fod yn fygythiad gwirioneddol iddyn nhw.
Un o’r prif resymau pam fod dyfodol y frenhiniaeth yn ddiogel ar hyn o bryd yw nad oes gan eu gwrthwynebwyr unrhyw gynllun nac ateb arall ar hyn o bryd ar beth ddylai gymryd ei lle.
Mae synnwyr cyffredin yn dweud na fyddai neb yn dewis pennaeth gwladwriaeth ar sail olyniaeth a thras heddiw. Ar y llaw arall, heb fod gan weriniaethwyr weledigaeth glir ar beth ddylai gymryd ei le, anodd gweld o le deuai’r gefnogaeth ymarferol i ddisodli’r frenhiniaeth.
Byddai hefyd yn gofyn am newidiadau mor radical i gyfansoddiad Prydain fel y byddai’n anodd dychmygu hyn yn digwydd mewn gwladwriaeth mor ddiarhebol geidwadol. Does ond angen gweld y llusgo traed sydd wedi bod gyda diwygio Tŷ’r Arglwyddi, neu unrhyw ymgais i gael system bleidleisio decach.
Ffactor arall sydd o blaid y frenhiniaeth yw y byddai’n amheus faint o frwdfrydedd fyddai gan unrhyw brif weinidog dros gael arlywydd etholedig a allai fod yn fygythiad i’w rym.
Yr hyn sy’n llawer mwy tebygol o ddigwydd – yn Lloegr o leiaf – fydd y frenhiniaeth yn rhygnu ymlaen ond yn cael ei chymryd yn fwyfwy ysgafn gan y deallusion.Mae eisoes yn digwydd i raddau helaeth, lle mai’r bobl sydd fwyaf tebygol o fod yn deyrngar i’r frenhiniaeth yw pobl hŷn, llawer ohonynt â chyraeddiadau addysgol is, sy’n darllen y Daily Mail neu’r Daily Express, ac yn cefnogi Brexit. O leiaf, gallwn obeithio mai testun sbort fydd teyrngarwch gormodol at y teulu brenhinol yng ngolwg mwyafrif cynyddol o’r boblogaeth bellach.
William ein Llyw Olaf?
Tra bydd Cymru’n rhan o’r wladwriaeth Brydeinig, mae’n gwbl anochel mai brenin neu frenhines Lloegr fydd pennaeth y wladwriaeth.
Mae hon yn sefyllfa na ellir ei newid tra bydd mwyafrif pobl Cymru’n cefnogi undod gwleidyddol o’r fath.
Ar y llaw arall, dydi hyn ddim yn golygu pam y dylen ni dderbyn pob agwedd o’r frenhiniaeth Seisnig. Yn sicr, mi ddylen ni fod yn codi llais a mynnu bod y teitl sarhaus ‘tywysog Cymru’ yn dod i ben – ac na fydd byth arwisgiad arall.
Mae angen dangos yn glir bod teitl o’r fath yn gwbl annerbyniol gan mai’r cyfan mae’n ei wneud yw rhwbio’n trwynau yn y baw trwy ein hatgoffa o goncwest Edward I. Dylid mynnu bod dathlu hyn yr un mor annerbyniol â chofgolofnau i fasnachwyr caethweision.
Yn ymarferol, yr hyn sy’n rhaid ei wneud yw mynnu mai William fydd yr olaf i arddel y teitl.
I raddau helaeth, roedd rhywbeth yn bur naïf yn y feirniadaeth a gafwyd o Charles am gyhoeddi William yn dywysog Cymru o fewn diwrnod i farwolaeth y Frenhines ym mis Medi.
Dylai fod wedi bod yn amlwg i bawb ar hyd y blynyddoedd fod hyn yn gwbl anochel a’i bod yn llawer rhy hwyr meddwl am brotestio erbyn hynny.
Felly os ydym o ddifrif eisiau gweld y teitl yn dod i ben, mae angen ei gwneud yn glir yn ddi-oed na ddylai mab William gael bod yn Dywysog Cymru ar ei ôl. Rwan, pan mae’n blentyn bach, ydi’r adeg i ennill y ddadl honno – mi fydd yn rhy hwyr pan fydd ei dad wedi olynu Charles yn frenin.
Safiad mwy diamwys
Dylai’r difaterwch cynyddol tuag at deulu brenhinol Lloegr fod yn gymhelliad clir i genedlaetholwyr Cymru dros feithrin agwedd llawer mwy diamwys yn eu herbyn.I raddau, gellir deall yr awydd i guddio gwrthwynebiad i’r frenhinaeth pan oedd y Frenhines Elizabeth yn dal yn fyw, yn wyneb ei phoblogrwydd.
Eto i gyd, tila iawn oedd y ddadl a arferai gael ei defnyddio’n barhaus – sef mai ‘mater i Gymru ar ôl dod yn annibynnol’ fyddai penderfynu beth i’w wneud gyda’r frenhiniaeth.Mae’r cwestiwn a ddylai Cymru barhau mewn undod brenhinol â choron Lloegr neu beidio yn rhan gwbl hanfodol o’r graddau o annibyniaeth mae ymgyrchwyr yn ei geisio i Gymru.
Nid rhyw fath o ddadl haniaethol o blaid neu yn erbyn brenhiniaeth fel y cyfryw ydi’r cwestiwn hwn, ond rhan greiddiol o genedlaetholdeb Cymreig. Prif sail gwrthwynebiad cenedlaetholwyr Cymreig i’r teulu brenhinol ydi eu bod nhw’n symbol o oruchafiaeth y Saeson – a does dim synnwyr na rhesymeg na mantais wleidyddol dros geisio cuddio hynny.
Mae synnwyr cyffredin yn dweud na fyddai cael brenin neu frenhines Seisnig yn bennaeth gwladwriaeth annibynnol Gymreig yn dderbyniol mewn unrhyw ffordd.Does gan ymgyrchwyr dros Gymru annibynnol – boed yn fudiad fel Yes Cymru neu’n blaid fel Plaid Cymru sy’n arddel y nod – ddim byd i’w golli bellach trwy ddweud y ddiflewyn ar dafod na fyddai lle i deulu brenhinol Lloegr mewn Cymru annibynnol.Oni bai y bydd dirmyg llwyr yn cynyddu tuag at y sefydliad Seisnig, gan gynnwys teulu brenhinol Lloegr, fyddai pobl Cymru byth yn cefnogi annibyniaeth i Gymru yn y lle cyntaf.