Mae llinell gymorth 24 awr ar gyfer cynnig cefnogaeth i deuluoedd sy’n byw gydag awtistiaeth a chyflyrau niwrowahanol wedi cael ei lansio.

Caiff y gwasanaeth ei ddarparu drwy ehangu’r Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol (C.A.L.L), ac mae’r staff yn cael hyfforddiant ychwanegol ar niwrowahaniaeth gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol.

Mae’r cynllun Niwrowahanol – a all hefyd gyfeirio unigolion niwrowahanol, eu teuluoedd a’u ffrindiau at lenyddiaeth ddefnyddiol neu wybodaeth am wasanaethau – wedi bod ar waith ers mis Ebrill 2023.

Mae’r fenter yn rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau a chefnogaeth ar gyfer pobol niwrowahanol.

‘Gwasanaeth mwy cynhwysol’

Dywedodd rheolwr Llinell Cymorth C.A.L.L eu bod nhw’n falch o allu cynnig cefnogaeth i fwy o bobol yng Nghymru.

“Drwy gael yr hyfforddiant mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn ei ddarparu, byddan ni’n cynnig gwasanaeth mwy cynhwysol,” meddai Luke Ogden.

“Mae’r llinell gymorth yn gallu cynnig cefnogaeth emosiynol i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru, darparu gwybodaeth am wasanaethau ledled y wlad, a darparu llenyddiaeth ar ystod o bynciau i’r rhai sy’n gofyn amdani.”

‘Rhannu eu gofidion’

Y gobaith yw y bydd y llinell gymorth yn helpu pobol niwrowahanol a’u teuluoedd mewn “ffordd ystyrlon”, meddai Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Julie Morgan.

“Mae gen i ddiddordeb brwd iawn mewn sicrhau ein bod ni’n darparu’r gefnogaeth y mae pobol niwrowahanol yn dweud wrthyf sydd ei hangen arnyn nhw.

“Dw i wedi cwrdd â llawer o deuluoedd a chlywed am yr anawsterau maen nhw’n eu profi o ran cael mynediad at gymorth a chefnogaeth ar gyfer awtistiaeth, ADHD a syndrom Tourette.

“Mae llawer o deuluoedd wedi dweud wrthyf i bod angen iddynt allu rhannu eu gofidion, a byddai gwybod bod rhywun ar gael sy’n gallu gwrando arnyn nhw, heb eu beirniadu, yn gwneud gwahaniaeth i’w bywydau a’u llesiant.

“Dw i’n falch o ddweud ein bod ni’n gwrando ac yn gweithredu ar hynny.”