Mae Peredur Griffiths, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, wedi croesawu’r newyddion y bydd pwll glo Ffos-y-Fran ger Merthyr Tudful yn cau.
Gofynnodd gweithredwyr y safle am estyniad hyd at 2024, ond dywedodd swyddogion cynllunio na fyddai hynny’n cyd-fynd â pholisïau Llywodraeth Cymru er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Derbyniodd y safle yn Ffos-y-Fran ganiatâd cynllunio yn 2005, a chychwynnodd y gwaith cloddio ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Mae’r ardal tua’r un maint â 400 o gaeau pêl-droed, gan ei wneud yn bwll glo agored mwyaf y Deyrnas Unedig.
Fodd bynnag, roedd llawer o drigolion oedd yn byw ger y pwll glo yn anhapus oherwydd y llwch a’r synau uchel oedd yn dod o’r safle, gyda rhai ohonyn nhw’n byw cyn lleied â 40 metr i ffwrdd.
Arweiniodd hyn at flynyddoedd o brotestiadau’n gwrthwynebu’r safle a’r effaith ar fywydau pobol.
‘Balch dros yr etholwyr’
“Dw i’n ddiolchgar ei fod o wedi digwydd,” meddai Peredur Gruffydd wrth golwg360.
“Dw i wedi ysgrifennu at y cwnselydd cyffredinol ac wedi codi’r pwnc yn y Siambr ynglŷn â’r gwahaniaeth yn y gyfraith o ran cynllunio sy’n dweud yn Lloegr, os oes apêl yn mynd drwyddo, mae’n rhaid stopio popeth nes bod yr apêl yn cael ei glywed.
“Y gwahaniaeth yng Nghymru ydy eu bod nhw’n gallu mynd ati i fwyngloddio tra mae’r apêl yn mynd trwyddo oni bai eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad.
“Dw i’n falch iawn dros yr etholwyr sydd wedi bod yn brwydro am hyn am sawl blwyddyn erbyn hyn, felly dw i’n reit falch fod popeth yn cael ei wneud.
“Mae’r sŵn, yn enwedig i’r bobol sy’n byw reit wrth ymyl y gwaith, wedi golygu eu bod nhw methu agor eu ffenestri ac ati ers rhai blynyddoedd rŵan, felly dw i’n meddwl bod y bobol hynny am weld budd mawr fod hynny ddim am fod yn parhau.”
‘Rhaid adfer y safle’
Fodd bynnag, dywed fod ganddo bryderon na fydd y safle’n cael ei adfer yn llawn ar ôl i’r pwll glo gau.
“Y pryder sydd gen i, a dwi’n meddwl bod y Prif Weinidog wedi codi’r un pryder, ydi bod yn rhaid i’r gwaith adfer gael ei wneud i roi’r tir yn ôl fel oedd o,” meddai.
“Maen nhw i fod i roi’r safle yn ôl fel yr oedd o i wneud yn siŵr bod yno fryniau yn ôl yno yn edrych yn daclus, a bod pob dim yn cael ei wneud yn ôl beth sydd wedi cael ei addo i bobol leol.
“Felly mi ddylai’r cwmni sydd wedi bod yn gwneud elw ar gefn hyn ddefnyddio’r arian i sicrhau bod y gwaith adfer i gyd yn cael ei wneud, a bod pobol ddim am orfod edrych ar dwll mawr yn y ddaear am flynyddoedd i ddod.
“Ond mae yna gonsyrn a ydyn nhw wedi rhoi’r arian wrth gefn i wneud hynny.”
Dywed fod y cam yn un pwysig er mwyn blaenoriaethu’r effaith amgylcheddol, ac iechyd corfforol a meddyliol ar drigolion.
“Dw i’n meddwl bod yr effaith ar yr amgylchedd yn andwyol iawn, ac felly mae’n bwysig ein bod ni’n rhoi’r amgylchedd uwchben pethau eraill,” meddai.
“Rhaid gwneud yn siŵr fod cenedlaethau’r dyfodol ddim yn cael eu heffeithio gan hyn o ran iechyd corfforol a meddyliol, yn enwedig y bobol sydd wedi bod yn poeni am hyn ers lot o flynyddoedd erbyn hyn.”
Dywed llefarydd ar ran y gweithredwyr eu bod yn gweithio ar gynigion diwygiedig ar gyfer adfer y tir, a fydd y “brosiect mawr” o bosib, a bod hynny’n golygu troi rhannau o’r safle yn “gyrchfan twristiaeth a hamdden”.