Mae grwpiau ymgyrchu a gwleidyddion wedi ymateb i’r newyddion y bydd yn rhaid i safle glo brig mwyaf y Deyrnas Unedig gau ar ôl i estyniad i’w gadw ar agor gael ei wrthod.

Mae’n golygu bod rhaid rhoi’r gorau i gynhyrchu yn Ffos-y-Fran ger Merthyr Tudful, ar ôl 16 mlynedd o gloddio.

Roedd gweithredwyr wedi gofyn am estyniad tan 2024, gan ddadlau bod angen glo o’r pwll ar y diwydiant dur.

Fe bleidleisiodd aelodau Cyngor Sir Merthyr Tudful yn unfrydol ddoe (dydd Mercher, Ebrill 26) i wrthod y cais.

Cais am estyniad

Ar ôl pymtheg mlynedd, fe ddaeth y caniatâd cynllunio i ben fis Medi y llynedd, ond fe geisiodd y cwmni am estyniad.

Roedd y cais am ganiatáu’r gwaith cloddio ac adfer mwynau, gyda chloddio i ddod i ben erbyn Mawrth 31 y flwyddyn nesaf, a’r gwaith adfer terfynol i’w gwblhau erbyn Mehefin 30, 2026.

Dywedodd yr adroddiad y byddai hyn yn caniatáu i’r 240,000 tunnell o lo sy’n weddill gael ei gloddio a’r brif farchnad fyddai Tata Steel ym Mhort Talbot, ond ei fod hefyd yn cael ei ddefnyddio gan amrywiaeth o farchnadoedd llai.

Ond dywedodd swyddogion cynllunio Cyngor Merthyr nad oedd yr estyniad arfaethedig yn cyd-fynd â pholisïau Llywodraeth Cymru ar fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Arweiniodd trigolion ymgyrch yn galw am ei gau, gan ddweud bod glo a llwch yn ogystal â sŵn yn eu heffeithio’n barhaus.

Roedd rhai o’r tai agosaf lai na 40 metr i ffwrdd.

‘Digon yw digon’

Mae ymgyrchwyr wedi croesawu’r newyddion, a bu criw ohonyn nhw’n cynnal rali tu allan i swyddfeydd y Cyngor cyn y cyfarfod ddoe.

Wrth ymateb i’r penderfyniad, dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, eu bod nhw’n “falch, ac yn falch o’r bleidlais unfrydol gan bwyllgor cynllunio Cyngor Merthyr i wrthod y cynnig am fwy o fwyngloddio yn Ffos y Frân”.

“Mae hon yn fuddugoliaeth enfawr i hinsawdd, natur, a’r gymuned leol,” meddai.

“Digon yw digon – mae trigolion wedi gorfod dioddef y sŵn a’r llygredd aer ers dros 16 mlynedd.

“Rydyn ni’n byw mewn argyfwng hinsawdd ac ni allwn gloddio a llosgi rhagor o lo, y tanwydd ffosil mwyaf budr.

“Dyma neges gref a chlir bod cloddio am lo yn mynd yn groes i bolisïau hinsawdd, cynllunio a glo Cymru ac yn gosod cynsail cryf.

“Rhaid atal mwyngloddio ar unwaith, ac adfer gan y perchennog cyn gynted â phosib, er mwyn i’r gymuned leol gael y dyfodol glanach, gwyrddach maen nhw’n ei haeddu.”

‘Newyddion i’w groesawu’

“Mae hwn yn newyddion i’w groesawu i’r trigolion lleol niferus y mae eu bywydau wedi’u difetha gan gloddio cast agored yn eu cymuned,” meddai Peredur Owen Griffiths, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru.

“Mae’r safle hwn – y mwyaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig – wedi arwain at effaith annioddefol ar ansawdd aer, sŵn a llygredd llwch.

“Mae’r penderfyniad yma i wrthod yr estyniad yn rhyddhad enfawr i gymaint, yn enwedig gan ei fod wedi’i leoli agos i gartrefi, ysgolion a meysydd chwarae.

“Ar wahân i’r ffactorau amgylcheddol lleol, mae glo yn cael effaith ddinistriol ar yr amgylchedd a newid hinsawdd.

“Mae glo yn mynd yn groes i gyfrifoldeb byd-eang Cymru ac ein hymrwymiadau i ddatgarboneiddio.

“Mae’r newyddion yma i’w groesawu i bobol Merthyr heddiw ac i unrhyw un sy’n poeni am yr amgylchedd a’r argyfwng hinsawdd.”