Mae mis Ebrill yn fis ymwybyddiaeth Anhwylder Cyn Mislif (PMD), a ddoe (dydd Mercher, Ebrill 26), siaradodd Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, am y cyflwr yn y Senedd.
Siaradodd hi’n benodol am Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD), sy’n effeithio un ym mhob ugain o fenywod yn ystod yr wythnos cyn eu mislif, a’r diffyg ymwybyddiaeth ohono.
Mae’r rheiny sy’n byw â’r cyflwr yn wynebu gor-sensitifrwydd i newidiadau hormonau ar draws eu cylchred mislif, sy’n cael effeithiau emosiynol a chorfforol.
Yn aml, arweinia’r cyflwr at newidiadau cyflym mewn hwyliau, iselder a thrafferth canolbwyntio, sy’n amharu ar fywydau dyddiol y rheiny sy’n byw â’r cyflwr.
“Mae’n gyflwr sydd yn gallu dinistrio bywydau, mae’n gyflwr rydym ni angen dysgu mwy amdano ac mae’n gyflwr sydd heb gael ei gydnabod yn ddigonol na’i drin yn effeithiol,” meddai Sioned Williams.
Dywed ei bod hi wedi noddi digwyddiad gan Becci Smart, sydd wedi byw â’r cyflwr, yn Neuadd y Pierhead yng Nghaerdydd ddoe, er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr.
Cywilydd ac embaras
Mae Becci Smart, sy’n 36 oed ac yn dod o Ben-y-bont ar Ogwr, wedi siarad gyda golwg360 am ei phrofiadau hi.
Wrth siarad â golwg360 am ei phrofiadau, dywedodd Becci Smart, sy’n 36 oed ac yn dod o Ben-y-bont ar Ogwr, ei bod wedi cymryd deunaw mlynedd iddi gael y diagnosis cywir, wedi iddi ddioddef am 14 mlynedd, a bod diffyg addysg am fislif wedi arwain at “syndrom cyn mislif yn cael ei drin fel defod newid byd i fenyw”.
“Dw i’n cofio, tua wythnos cyn cychwyn fy mislif daeth yna niwl coch drosof fi a wnes i ddechrau rhedeg ar ôl fy mrawd efo brwsh gwallt,” meddai.
“Roedd fy ffrind gorau yn sefyll yno, wedi dychryn, tra roedd fy mrawd yn gweiddi am help.
“Dw i’n cofio teimlo cywilydd ac embaras ar ôl iddo ddigwydd, a wnes i ofyn wrth fy ffrind os oedd hi erioed wedi teimlo fel ei bod hi wedi colli rheolaeth cyn ei mislif.
“A dyma hi’n edrych arnaf fi, a dweud ei bod hi erioed wedi teimlo’r ffordd yna a dyna pryd wnaeth o glicio, dw i’n meddwl, a wnes i ddechrau gofyn beth sy’n bod arna i.”
Dywed nad oedd hi’n hoffi siarad am y pwnc pan oedd hi yn ei harddegau, ac er i’w mam a’i nain geisio mynnu cymorth iddi, roedd ei hymddygiad yn aml yn cael ei gam-briodoli fel canlyniad dod o gartref lle’r oedd y teulu wedi’i dorri i fyny.
Dros y blynyddoedd, cafodd hi sawl camddiagnosis o orbryder, anhwylder straen wedi trawma (PTSD), anhwylder obsesiynol-orfodol (OCD), anhwylder deubegynnol ac iselder.
“Roeddwn i wedi cael digon o frwydro yn erbyn cael fy labelu ym mhob enw yr oedden nhw’n gallu meddwl amdanyn nhw, er fy mod i’n gwybod eu bod nhw ddim yn gywir,” meddai.
“Roeddwn i jyst yn fodlon cymryd pa bynnag feddyginiaeth yr oedden nhw’n fodlon i’w gynnig i mi, ond roedd o’n dorcalonnus fod yna neb yn gwrando yn iawn arna i.
‘Simsanu ar ymylon bywyd a marwolaeth’
Dywed ei bod hi ar gymaint o dabledi sefydlogi hwyliau ar un adeg fel ei bod hi’n methu byw’n iawn yn ystod y bythefnos bob mis lle nad oedd hi’n dioddef o ganlyniad i’r cyflwr.
“Yn ystod y bythefnos lle yr oeddwn i’n dioddef, doedd dim byd wedi newid ac roeddwn i dal yn ryw anghenfil, ac roeddwn i’n hunanladdol,” meddai.
“Dw i’n cofio dweud wrth fy ngŵr un noson ’mod i ddim yn gallu gwneud hyn dim mwy.
“Roeddwn i’n treulio pythefnos o bob mis yn simsanu ar ymylon bywyd a marwolaeth.
“Jyst gad i fi gerdded allan drwy’r drws, a wna i fyth ddod yn ôl.
“Ond wnaeth o ddim gadael i hynny ddigwydd, a wnaeth o fynnu fy mod i’n cael cymorth.”
Wedi hynny, daeth Becci Smart o hyd i ddoctor “gwych” oedd yn gwrando ar ei phroblemau.
“Mi wnaeth hi ofyn un cwestiwn syml, wna’i fyth anghofio,” meddai.
“Wnaeth hi ofyn oedd yna unrhyw bwynt yn fy mywyd pan oeddwn i’n teimlo’n normal, a dywedais i ‘Oedd, pan oeddwn i’n feichiog’.
“Dyma hi’n dweud, ‘Does gen ti ddim un o’r cyflyrau eraill yma, PMDD sydd gennyt ti.”
Dywed ei bod hi wedi diystyru sylwadau’r doctor i gychwyn, gan fod ganddi ddiffyg dealltwriaeth o’r cyflwr.
Cafodd ei chyfeirio at gynaecolegydd ac aeth at ei seiciatrydd, oedd wedi dychryn nad oedd neb wedi sylweddoli beth oedd yn bod o’r blaen.
“Fel claf, wnaeth o gymryd deunaw mlynedd i fi gael y diagnosis, ac un cwestiwn syml wnaeth o ei gymryd iddo fo glicio i rywun.”
Angen cymorth i deuluoedd
Er ei bod hi wedi cychwyn codi ymwybyddiaeth am “resymau hunanol” yn wreiddiol, dywed Becci Smart ei bod hi wedi sylweddoli bod angen mwy o gymorth ar gyfer teuluoedd y rheiny sy’n byw â PMDD.
“Mae fy ngŵr a fy mhlant yn mynd trwy uffern bob mis oherwydd y cyflwr dw i’n dioddef ohono,” meddai.
“Pan rydan ni’n trafod y cyflwr, dydyn ni ddim yn cydnabod yr effaith mae’n ei chael ar ein teuluoedd.
“Fyswn i’n hoffi gweld rhywbeth fel yna yn cael ei godi yn y Senedd, am yr effaith mae’n ei chael ar ein teuluoedd a rheiny sydd agosaf atom ni.
“Pan es i i weld y GP, roedd yr holl adnoddau yma yn cael eu cynnig i mi ond doedd yna ddim byd am sut y gallai fy ngŵr gael mynediad at gymorth neu gyngor – a dyna sydd angen digwydd.”