Dydy hi ddim yn rhy hwyr i gynnal ymchwiliad penodol i Gymru ar effeithiau Covid-19, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
Yr wythnos hon, mae’r trydydd gwrandawiad cychwynnol wedi’i gynnal ac ymhen saith wythnos, fe fydd gwrandawiad cyntaf Modiwl 1 yn cael ei gynnal.
Dydy’r grŵp Teuluoedd sy’n Galaru dros Gyfiawnder Cymru, sy’n gyfranogwyr craidd, ddim wedi derbyn yr un datganiad gan dystion mewn perthynas â’r sefyllfa yng Nghymru.
Fe fu oedi hefyd wrth gyflwyno tystiolaeth, ac mae bargyfreithiwr ar ran y teulu wedi gofyn ai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am yr oedi hwnnw.
Cadarnhaodd y tîm cyfreithiol fod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflwyno’r holl ddogfennau perthnasol i’r ymchwiliad yn y drafft cyntaf o’u datganiad tystiolaeth, a bod yn rhaid gwneud ail gais am ddogfennaeth lawn.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud bod hyn yn “bryder mawr” i deuluoedd yng Nghymru, gan y bydd yr oedi’n lleihau eu hamser i adolygu a chwestiynu’r datganiadau a thystiolaeth ar ran Llywodraeth Cymru.
Maen nhw hefyd yn tynnu sylw at ddiffyg data ynghylch sefyllfa Cymru yn y datganiadau sydd wedi’u derbyn hyd yn hyn.
Gofynion Mark Drakeford
Fis Medi 2021, ysgrifennodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, at Gabinet Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn amlinellu ei ofynion ar ran Cymru mewn perthynas ag ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig.
“Er mwyn i ymchwiliad y Deyrnas Unedig gael unrhyw hygrededd yng Nghymru, lle mae yna nifer o alwadau ar wahân ar hyn o bryd am ymchwiliad ar wahân i Gymru, mae’n bwysig ei fod yn mynd rhagddo mewn ffordd sy’n ei alluogi i ganolbwyntio ar Gymru’n unig fel rhan o’i orchwyl.
“Bydd hyn yn gofyn am weladwyedd – dylai tîm yr ymchwiliad ddod i Gymru i gymryd tystiolaeth, dylai fod arbenigedd penodol i Gymru ar gael iddyn nhw, a bydd yn bwysig cynhyrchu pennod neu benodau ar Gymru fel rhan o’r adroddiad fel bod trigolion yma’n gallu myfyrio mewn ffordd dryloyw ar naratif a chasgliadau Cymreig.”
Er gwaetha’r sicrwydd hyn, dywed y Democratiaid Rhyddfrydol nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn am arbenigedd o Gymru yn y gwrandawiad, a bod angen i’r grŵp Cymreig ofyn am arbenigedd o Gymru, gan gynnwys un ar ba mor barod oedd yr awdurdodau ar gyfer y pandemig.
Dywed y Democratiaid Rhyddfrydol fod Mark Drakeford “wedi dibynnu ar ymchwiliad y Deyrnas Unedig i gyfiawnhau ei benderfyniad i wrthod ymchwiliad Covid penodol i Gymru”, a’i bod hi’n “destun siom” i deuluoedd sy’n galaru nad yw Llywodraeth Cymru’n cyflwyno tystiolaeth yn brydlon “er iddyn nhw gael digon o amser i baratoi”.
Maen nhw hefyd wedi mynegi eu siom mai’r grŵp teuluoedd yn unig sy’n galw am ymchwiliad i Gymru.
“Pam nad yw Llywodraeth Cymru’n mynnu bod gan Gymru arbenigwr ynghlwm wrth yr ymchwiliad, a pham nad yw penderfyniadau Llywodraeth Cymru ar barodrwydd yn cael eu craffu yn yr un manylder â Llywodraeth y Deyrnas Unedig?” meddai’r blaid.
Maen nhw’n dweud nad yw hyn yn cyd-fynd ag “ysbryd yr hyn addawodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw’n ei wneud pan wrthodon nhw gynnal ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru”.
‘Methiannau mawr’
“Dyma’r darn diweddaraf o dystiolaeth sy’n dangos bod yna wendidau mawr yn yr ymchwiliad hwn pan ddaw i Gymru a dangos y dylai Cymru fod wedi cael ei hymchwiliad Covid ei hun,” meddai Jane Dodds.
“Mae lleisiau o Gymru’n haeddu cael eu clywed, a’r rheiny yng Nghymru’n haeddu cael eu dwyn i gyfrif am benderfyniadau a wnaed yng Nghymru.
“Dydy hi ddim yn rhy hwyr i Mark Drakeford wneud y peth iawn a sefydlu ymchwiliad Covid penodol i Gymru.
“Pe baen nhw wir yn blaid datganoli go iawn, fydden nhw ddim yn ofni galluogi i benderfyniadau a wnaed yng Nghymru gael eu harchwilio’n iawn.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Rydyn ni’n parhau i ymgysylltu’n llawn â’r ymchwiliad er mwyn sicrhau bod ein gweithredoedd a’n penderfyniadau yn cael eu craffu’n llawn ac yn briodol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y broses mae’r ymchwiliad yn ei dilyn i ddatgelu gwybodaeth i bobol eraill.
“O safbwynt amseru, yn benodol, mater i’r rhai sy’n cynnal yr ymchwiliad yn unig yw hynny.”