Mae darlithydd o dras Gymreig yn Seland Newydd yn dweud bod angen i wleidyddion gymryd cyfrifoldeb er mwyn osgoi hiliaeth yn erbyn y Māori.

Mae gwefannau newyddion yn y wlad yn adrodd fod pryderon fod y ddadl ynghylch cyd-lywodraethu yn y wlad yn arwain at hiliaeth, ac mae gwleidyddion yn cael eu cyhuddo o gyfrannu at y broblem.

Yn ôl protestwyr ddaeth ynghyd yn Auckland yn ddiweddar, mae’r ddadl yn arwain at honiadau a rhagdybiaethau anghywir ynghylch y Māori yn fwy cyffredinol.

“Dw i’n credu bod gwleidyddion wedi cyfrannu at y teimladau gwrth-Māori rydyn ni wedi’u gweld ar-lein ac mewn llefydd eraill ar y mater hwnnw o gyd-lywodraethu,” meddai Carwyn Jones.

“Maen nhw wedi gwneud hynny drwy greu ofn a phryder ynghylch sut allai cyd-lywodraethu edrych heb siarad am unrhyw beth penodol ynghylch yr hyn sydd wedi’i gynnig yn y diwygiadau Three Water.”

Ond mae David Seymour, arweinydd plaid ACT, yn gwrthod y sylwadau hynny, gan ddweud bod ei blaid yn credu bod gan “bob person yr hawl i hawliau dynol drwyddi draw”.

Mae’n dweud nad yw dweud bod safbwynt rhywun yn niweidiol neu’n gam-wybodaeth yn helpu’r sefyllfa.

Dywed ei bod hi’n “well cael trafodaeth a dadl”.