Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn ofni y gallai ysbyty yn Nhorfaen fod yn fwy anodd i’w gyrraedd pan fydd cyllid bysiau’n cael ei dynnu’n ôl.
Mae Peredur Owen Griffiths wedi dweud wrth y Senedd fod Ysbyty’r Grange ger Cwmbrân eisoes yn anhygyrch i nifer o gymunedau fel mae pethau ar hyn o bryd.
Yn ystod Cwestiynau i’r Ysgrifennydd Iechyd, gofynnodd Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru pa bryderon sydd am y £350m yn mynd yn anoddach i’w gyrraedd.
Bydd y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau yn dod i ben ar Orffennaf 24.
Roedd y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau (BES) yn cadw gwasanaethau bysiau hanfodol i redeg drwy gydol y pandemig.
Y bwriad oedd dod â’r cynllun i ben ym mis Mawrth, ond yn dilyn trafodaethau cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror y byddai’n cael ei ymestyn am gyfnod pontio cychwynnol o dri mis hyd at ddiwedd Mehefin.
Ond yn dilyn sgyrsiau pellach, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau ar Fawrth 31 y bydd y cynllun yn cael ei ymestyn am gyfnod arall o dair wythnos hyd at ddiwedd y flwyddyn academaidd hon.
‘Dau fws, mwy na dwy awr ac ar gost o fwy na £9 i gyrraedd’
“Gweinidog, dylai un o’r prif ystyriaethau ar gyfer lleoliad ysbyty newydd fod, a yw’n hygyrch i bob claf, staff ac ymwelwyr fel ei gilydd,” meddai Peredur Owen Griffiths yn y Senedd.
“Efallai bod ysbyty’r Faenor, ger Cwmbrân, yn ysbyty modern, ond mae’n anodd, mewn gwirionedd, i gael mynediad i lawer o’r cymunedau mae e fod i’w gwasanaethu.
“Gwelsom hyn pan oedd fy nghydweithwyr Plaid Cymru Cynghorydd Steve Skivens a’r Cynghorydd Charlotte Bishop, y ddau gynghorydd yn cynrychioli Caerffili – un ym Mhen-yr-heol ac un yng Nghwm Aber – wedi ceisio cyrraedd yr ysbyty o Abertridwr gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
“Fe gymerodd hi ddau fws iddyn nhw, mwy na dwy awr ac ar gost o fwy na £9 yr un i gyrraedd yno.
“Gyda’r Llywodraeth yn tynnu arian pandemig yn ôl i gwmnïau bysiau yn ddiweddarach eleni, a rhagfynegiadau cwymp trychinebus i lawer o wasanaethau bws, gallai ysbyty’r Grange ddod yn anoddach fyth i unrhyw un sydd ddim yn teithio mewn cerbyd modur preifat.
“Pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i wella mynediad i ysbytai i’r rhai sydd heb gerbydau modur?
“Ydych chi’n rhannu pryderon Plaid Cymru am y dirywiad yn sgil torri’r arian i gwmnïau bysys o safbwynt cael mynediad at wasanaethau iechyd?”
Wrth ymateb, dywedodd Eluned Morgan fod y llywodraeth yn “bryderus” am fynediad i’r Grange, a bod arian wedi’i ddarparu yn ddiweddar i wella’r sefyllfa.