Mae rhai yn bryderus na fydd cynyddu nifer y plismyn yng Nghymru yn mynd i’r afael â phroblemau ehangach y system cyfiawnder troseddol.

Mae ffigurau gafodd eu cyhoeddi gan y Swyddfa Gartref ddoe (dydd Mercher, Ebrill 26) yn dangos bod cynnydd o 1,127 wedi bod yn nifer y plismyn yng Nghymru dros y tair blynedd diwethaf.

Daw’r cynnydd yn dilyn rhaglen ymgodi heddlu Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gafodd ei haddo gyntaf yn 2019.

Y bwriad oedd recriwtio 20,000 o blismyn newydd ar draws Cymru a Lloegr yn ystod hyd oes y cynllun.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae cyfanswm o 20,951 o blismyn ychwanegol wedi’u recriwtio ers 2019.

Y targed ar gyfer Cymru oedd 1,005 ond yn ôl y ffigurau mae 1,127 wedi cael eu recriwtio erbyn hyn.

Bu cynnydd o 527 yn y de, tra bod 207 o blismyn newydd wedi cael eu recriwtio yn y gogledd.

Yn ogystal, cafodd 239 eu recriwtio yng Ngwent tra mai 154 oedd y ffigwr yn Nyfed-Powys.

‘Llwyddiant ysgubol’

“Mae rhaglen codiad heddlu Llywodraeth Geidwadol y DU wedi bod yn llwyddiant ysgubol, yn enwedig i Gymru, lle mae gennym ni dros fil yn fwy o swyddogion heddlu,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae niferoedd yr heddlu ar i fyny ym mhob un o bedair cornel Cymru ac mae’r nifer cyffredinol hyd yn oed yn fwy na’n dyraniad fel rhan o ymdrech tair blynedd y Deyrnas Unedig gyfan i hybu recriwtio.

“Gall pobol ar hyd a lled Cymru fod yn sicr bod y Ceidwadwyr yn canolbwyntio ar flaenoriaethau’r bobol, yn lleihau trosedd, yn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac yn darparu cymunedau mwy diogel.”

Amheuon am y ffigurau

Fodd bynnag, mae pryderon hefyd na fydd y cynnydd hwn wir yn datrys problemau’r system cyfiawnder troseddol.

Yn ôl y felin drafod Institute for Government, mae ôl-groniad o dros 62,000 o achosion mewn llysoedd troseddol, gyda’r amser aros rhwng cyhuddo a’r achos llys wedi cynyddu o 250 diwrnod i 400 rhwng 2019 a 2021.

“Er mwyn datrys y problemau hyn, mae angen dull gweithredu sy’n nodi yn well y prinder sgiliau allweddol a dadflocio pwysau,” meddai’r felin drafod.

“Dim ond un elfen o’r system y mae’r rhaglen ymgodi wedi’i thargedu ac nid oes unrhyw gynlluniau proffil uchel ar gyfer y llysoedd troseddol a’r carchardai.”

Mae Yvette Cooper, llefarydd materion cartref Llafur yn San Steffan, hefyd wedi mynegi ei phryderon.

“Mae’r Torïaid yn ceisio cymryd y wlad fel ffyliaid ar blismona… maent wedi TORRI 20,000 o blismyn,” meddai ar Twitter, gan gyfeirio at y ffaith fod gostyngiad o 20,000 wedi bod yn y nifer y plismyn rhwng 2010 a 2019 yn dilyn toriadau ariannol.

Fodd bynnag, dywed Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman eu bod wedi cyrraedd eu nod.

“Rydym wedi cyflawni’r addewid a wnaethom i bobol Prydain, sy’n golygu mwy o heddlu yn atal trais, yn datrys byrgleriaethau ac yn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol,” meddai.