Mae nifer o ffyrdd gwledig yn Sir Gâr ac ar draws Cymru mewn cyflwr gwael am un rheswm: rhaglen llymder ddidostur Llywodraeth Dorïaidd y Deyrnas Unedig.
O ganlyniad, mewn termau real, mae gan Gyngor Sir Gâr dros £100m yn llai i’w wario na deng mlynedd yn ôl. Mae’n anochel bod gwariant ar briffyrdd wedi gostwng wrth i ni flaenoriaethu ariannu addysg a gofal cymdeithasol yn ystod cyfnod o gwtogi ar wariant cyhoeddus blwyddyn ar ôl blwyddyn.
Yn ystod y blynyddoedd cyntaf, nid oedd effaith weladwy cwtogi ar waith cynnal a chadw ein heolydd mor amlwg. Ond erbyn hyn, mae blynyddoedd o draul a rhwyg wedi cael effaith ddifrifol ar sawl heol, mewn ardaloedd gwledig yn arbennig.
Rwy’n annog pobol i gydnabod bod cysylltiad uniongyrchol rhwng sut maen nhw’n pleidleisio mewn Etholiad Cyffredinol a lefel y gwasanaeth y gallant ei ddisgwyl ar lefel leol, gan fod y rhan fwyaf o’n cyllid ni’n dod o San Steffan trwy Lywodraeth Cymru – cyllid sy’n cael ei dorri’n ôl yn ddidrugaredd gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig.
I fod yn blwmp ac yn blaen, mae pob pleidlais dros ymgeisydd Torïaidd yn bleidlais dros dwll arall yn ein ffyrdd.
Galwaf ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies AS, i ymladd cornel ein cenedl trwy fynnu bod ei lywodraeth yn darparu cyllid brys i gynghorau Cymru, yn benodol ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd.