Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn wynebu cyhuddiadau troseddol, yn dilyn marwolaeth glaf iechyd meddwl.
Bu farw’r claf yn Uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd ar Ebrill 20 ddwy flynedd yn ôl.
Yn dilyn ymchwiliad gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, cafodd y bwrdd iechyd eu cyhuddo o fethu â chyflawni eu dyletswydd o dan Adran 3 o’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974.
Noda’r ddeddf y “bydd yn ddyletswydd ar bob cyflogwr i gyflawni ei ymgymeriad mewn modd a fydd yn sicrhau, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, nad yw personau nad ydynt yn eu cyflogaeth yn agored i risgiau i’w hiechyd neu eu diogelwch”.
‘Gwarthus’
Mae Darren Millar, llefarydd gogledd Cymru y Ceidwadwyr Cymreig, yn galw’r digwyddiad yn un “gwarthus”.
“Bydd llawer o bobol yn synnu at y newyddion bod y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn erlyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am wneud cleifion yn agored i risgiau a arweiniodd at farwolaeth claf iechyd meddwl yn eu gofal,” meddai.
“Dydy’r methiant i fynd i’r afael â heriau yn ein gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru yn ddim llai na gwarthus, ac mae’r ffaith bod y farwolaeth hon wedi digwydd ychydig fisoedd ar ôl i’r Bwrdd Iechyd gael ei dynnu allan o fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru yn codi’r cwestiwn tybed a gyfrannodd y penderfyniad hwnnw at y drasiedi hon.”
Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu tynnu allan o fesurau arbennig fis Tachwedd 2020.
Fodd bynnag, dychwelodd i fesurau arbennig fis Chwefror eleni, yn dilyn pryderon am berfformiad a diwylliant y sefydliad.
‘Achos trasig iawn’
“Mae hwn yn achos trasig iawn ac mae ein calonnau’n mynd allan i deulu ac anwyliaid y claf,” meddai llefarydd ar ran y bwrdd iechyd.
“Ni allwn wneud sylw pellach nes bod y gwrandawiad wedi dod i ben.”
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod eu “meddyliau gyda phawb sydd wedi’u heffeithio gan y farwolaeth drist hon”.
“Ni allwn wneud sylw pellach tra bod y gwrandawiad yn parhau,” meddai.
Mae disgwyl y bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal yn Llys Ynadon Llandudno ar Awst 3.