Fe ddaeth consensws ar alwad Plaid Cymru am gyfran deg o arian HS2 i Gymru ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 26), yn dilyn dadl yn y Senedd.
Ar ôl cyflwyno’r ddadl, mae’r Blaid bellach yn galw ar Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, a Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, i weithredu gan ddweud bod rhaid i bleidiau yn San Steffan ddod o hyd i’r arian sy’n ddyledus i Gymru.
Fe wnaeth y Senedd gefnogi’n unfrydol y cynnig yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ailddosbarthu HS2 fel prosiect ‘Lloegr yn unig’, a rhoi’r arian canlyniadol i Gymru sy’n ddyledus iddi.
Yn ôl Plaid Cymru, mae’r cynnig “un o’r arwyddion mwyaf clir fod San Steffan wedi’i chael hi’n anghywir”, ac fe ddaeth yr amser i San Steffan dalu Cymru.
Y ddadl
Yn ystod y ddadl, galwodd Plaid Cymru ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gywiro’r cam sy’n golygu bod rheilffordd HS2, sy’n werth £100bn, wedi’i ddosbarthu’n brosiect ‘Cymru a Lloegr’ er nad yw unrhyw ran o’r cledrau yng Nghymru.
Fe fu Plaid Cymru’n dadlau ers tro bod £5bn yn ddyledus i Gymru drwy Fformiwla Barnett o ganlyniad i brosiect HS2, sy’n cysylltu Llundain â Birmingham a Manceinion.
Yn ogystal, dylai Cymru dderbyn £1bn o ganlyniad i fuddsoddiad o £39bn ym mhrosiect Rheilffordd Pwerdy’r Gogledd, sydd hefyd yn cael ei ddosbarthu’n brosiect ‘Cymru a Lloegr’ er ei fod yn cysylltu Lerpwl â Hull.
Yn ystod y ddadl, fe wnaeth Plaid Cymru roi’r bai am y sefyllfa ar San Steffan, wrth i’r Ceidwadwyr wrthod ailddosbarthu HS2 yn brosiect ‘Lloegr yn unig’, a dydy Syr Keir Starmer ddim wedi ymrwymo i ailddosbarthu HS2 pe bai Llafur yn dod i rym.
Er bod Plaid Cymru’n croesawu’r consensws trawsbleidiol yn y Senedd, maen nhw’n pwysleisio mai penderfyniad ar lefel y Deyrnas Unedig fydd ailddosbarthu HS2, gan alw ar bleidiau San Steffan am gyfran deg o arian fel bod modd trwsio system drafnidiaeth Cymru.
Cyfran deg
“Mae dadl Plaid Cymru yn y Senedd wedi gweld pob plaid yn cytuno bod Cymru’n haeddu ei chyfran deg o arian o ganlyniad i HS2,” meddai Luke Fletcher, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi.
“Mae hwn yn un o’r arwyddion mwyaf clir fod San Steffan wedi’i chael hi’n anghywir o ran HS2 dros nifer o flynyddoedd.
“Mae Cymru’n talu ei chyfran deg o drethi i mewn i’r pot, ond dydyn ni ddim yn cael ein cyfran deg yn ôl gan San Steffan.
“£5bn sylweddol yw’r ffigwr sy’n ddyledus i Gymru o HS2.
“Ychwanegwch Reilffordd Pwerdy’r Gogledd, sy’n debyg, at hyn ac mae gennych chi £6bn enfawr sy’n ddyledus i Gymru gan San Steffan.
“Dyna £6bn y gallen ni ei ddefnyddio i drwsio ein system drafnidiaeth yng Nghymru sydd wedi torri – gan gysylltu ein cymunedau o’r de i’r gogledd.
“Er gwaetha’r consensws, dydy Sunak na Starmer ddim wedi ymrwymo i roi i Gymru yr hyn sy’n ddyledus iddi ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf.
“Rwy’n annog holl Aelodau’r Senedd o bob plaid gefnogodd gynnig Plaid Cymru i annog eu cydweithwyr yn San Steffan i ymrwymo i roi i Gymru ei chyfran deg.”
Sesiwn Holi’r Prif Weinidog
Cafodd arian teg i Gymru o ganlyniad i HS2 ei godi gan Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog.
Dywedodd wrth Rishi Sunak y byddai cost rheilffordd o’r de i’r gogledd yng Nghymru’n costio cyfran yn unig o bris HS2.
Dywedodd ei bod hi’n “anhygoel” nad oes ffordd o deithio ar drên o’r de i’r gogledd heb orfod teithio drwy Loegr.
“Byddai cysylltu de a gogledd Cymru’n costio £2bn.
“Mae’r Prif Weinidog yn siarad am ‘redeg i ffwrdd ag arian pobol eraill’, ond mae ei Lywodraeth yn amddifadu Cymru o £6bn drwy farnu bod cysylltiadau rheilffyrdd o dde i ogledd Lloegr fel HS2 rywsut o fudd i Gymru.
“A wnaiff e bledio’n euog i Ladrad Mawr Trenau Cymru?”