Mae’r gwaith blynyddol o blygu 168 o goed pisgwydd yn Erddig ar waith.

Yn ôl amcangyfrifon, bydd yn cymryd cyfanswm o 65,000 toriad i dîm bach o staff a gwirfoddolwyr i’w gwblhau, yn barod iddyn nhw ffrwydro’n llawn dail erbyn canol mis Mai.

Cafodd y rhodfeydd o goed pisgwydd eu plannu yn 1976 gan Mike Snowden, y Prif Arddwr aeth ati i adfer yr ardd restredig Gradd I i’w dyluniad deunawfed ganrif ffurfiol.

Yn gynharach ym mis Ebrill, dechreuodd Glyn Smith, y Prif Arddwr presennol, ar y dasg flynyddol o blygu’r coed pisgwydd, sy’n cynnwys tocio pob cangen â llaw.

Oni bai am dîm bach o staff a gwirfoddolwyr sy’n cefnogi’r dasg enfawr hon, byddai’n cymryd deg wythnos i un garddwr i gwblhau’r gwaith.

‘Tasg grefftus’

“Rydym hanner ffordd drwy’r dasg grefftus o blygu’r coed pisgwydd ac rydym yn anelu at gwblhau’r gwaith yr wythnos nesaf,” meddai Glyn Smith, Prif Arddwr Erddig, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

“Yna, bydd y coed yn ffrwydro’n llawn dail oddeutu wythnos yn ddiweddarach.

“Mae’n olygfa y byddwn ni a sawl ymwelydd yn edrych ymlaen at ei gweld bob blwyddyn.”

Mae’r coed hyn yn cael ei galw yn lime trees yn Saesneg; yn wahanol i goed pisgwydd arferol, dydyn nhw ddim yn cynhyrchu ffrwythau leim, ond maen nhw’n cael eu henw o’r arogl leim maen nhw’n ei gynhyrchu wrth iddyn nhw flodeuo yn yr haf.

Daw’r rhain o’r pisgwydd croesryw eithaf egnïol, Tilia x euchlora, ac maen nhw’n edrych yn odidog yn yr ardd.

Tocio a meithrin yn flynyddol

Mae Glyn Smith wedi bod yn Brif Arddwr yn Erddig ers 37 o flynyddoedd, a dydy o ddim wedi methu’r un flwyddyn o blygu’r coed.

Mae’n adnabod pob boncyff, coesyn a chainc, ac mae gwaith crefftus ynghlwm â thocio a meithrin y coed yn flynyddol.

“Rydym yn defnyddio’r dull o blygu’r coed er mwyn meithrin y coed i greu sgrin neu wrychyn cul drwy glymu a phlethu’r egin ifanc hyblyg ar hyd fframwaith cynhaliol,” meddai.

“Mae pob un o’r canghennau wedi cael eu himpio gyda’i gilydd er mwyn uno â’r un nesaf atynt.

“Mae’n bwysig cadw boncyff neu goesyn y goeden yn glir, felly rhan fawr o’r dasg hefyd yw cael gwared ar yr egin newydd, fel bod taldra ac ymddangosiad ffurfiol y coed yn parhau’n daclus ac yn annog tyfiant trwchus.

“Mae’r gwrychyn hirfain wedyn yn darparu lloches a chysgod i nifer o gynefinoedd megis adar ac infertebratau.

“Maent hefyd yn cynnig cysgod i’r rhai sy’n cerdded yn yr ardd ers blynyddoedd bellach.”

Arddangosfa syfrdanol

Mae’r coed yn cynnig arddangosfa syfrdanol drwy gydol y flwyddyn.

Ond y gwanwyn yw’r tymor mae pobol yn edrych ymlaen ato fwyaf, wrth i’r dail gwyrdd siâp calon ymddangos gydag ychydig o felyn oddi tanyn nhw.

Ar ddechrau’r hydref, bydd y dail yn troi’n lliw melyn tywyll cyn syrthio i’r llawr, ac yn datgelu rhisgl rhigolog a brigau browngoch tywyll, gan ychwanegu diddordeb saernïol i’r ardd drwy gydol y flwyddyn.