Mae Meritxell Serret, gweinidog amaeth Catalwnia adeg refferendwm annibyniaeth 2017, wedi’i gwahardd rhag bod mewn swydd gyhoeddus am flwyddyn yn sgil ei rhan yn y refferendwm “anghyfansoddiadol”.

Mae hi hefyd wedi cael dirwy o 12,000 Ewro gan Uchel Lys Catalwnia, ond mae disgwyl iddi apelio gerbron y Goruchaf Lys.

Ei dedfryd yw’r union ddedfryd roedd yr erlynydd cyhoeddus wedi gofyn amdani yn ystod achos llys fis diwethaf.

Wrth ymateb, dywed Meritxell Serret fod y refferendwm “nid yn unig yn drosedd ond yn fynegiant democrataidd enfawr oedd yn deillio o fandad y mwyafrif yn y senedd”.

Mae hi’n mynnu na fydd unrhyw ddedfrydau yn erbyn yr ymgyrchwyr tros annibyniaeth yn eu hatal nhw rhag parhau i frwydro.

Cefndir

Roedd Meritxell Serret ymhlith y gwleidyddion cyntaf yng Nghabinet y cyn-arweinydd Carles Puigdemont i fynd yn alltud o Gatalwnia yn 2017.

Fis Mawrth 2021, hi oedd y gyntaf ohonyn nhw i ddychwelyd i’r wlad, gan ddechrau paratoi ar gyfer yr achos llys yn ei herbyn.

Dychwelodd hi i’r Cabinet bryd hynny yn weinidog tramor, y gwleidydd cyntaf o blith y rhai alltud i ddychwelyd i’r Cabinet.

Bydd hi’n parhau yn ei swydd am y tro, ond byddai hi’n colli’r swydd honno pe bai’r Goruchaf Lys yn dyfarnu yn ei herbyn.

Does neb arall wedi cael dedfryd eto ar ôl bod yn alltud.

Mae hi wedi’i chael yn euog o anufudd-dod, a hithau’n un oedd wedi cymeradwyo cyllideb Catalwnia yn 2017 ac wedi llofnodi’r alwad i gynnal pleidlais ddadleuol am annibyniaeth er gwaethaf rhybudd gan Lys Cyfansoddiadol Sbaen y byddai’n torri’r gyfraith.

Fis diwethaf, dywedodd fod gan wleidyddion yn 2017 ddewis rhwng mandad i drefnu’r bleidlais a’r cyfyngiadau arnyn nhw o du’r Llys Cyfansoddiadol.

Dywedodd wrth y barnwr nad oedd cynnal y bleidlais “yn mynd yn groes i hawliau neb”.

Ymateb

Yn ôl Pere Aragonès, arweinydd Catalwnia, penderfyniad “gwleidyddol” yw’r gwaharddiad yn erbyn Meritxell Serret.

Mae’n mynnu y bydd hi’n parhau i weithio “â’i holl deitlau”, ac nad oes modd ystyried y refferendwm yn 2017 “yn drosedd”.

Yn ôl Oriol Junqueras, llywydd plaid Esquerra Republicana, mae’r ddedfryd yn “hynod annheg”.

Dywedodd Jordi Turull, ysgrifennydd cyffredinol y blaid, fod “cyfiawnder Sbaen unwaith eto’n mynd yn ffordd gwleidyddiaeth Catalwnia”.

Mae Carles Puigdemont hefyd yn dweud bod y ddedfryd yn “annheg”, ac mae e wedi datgan ei “gefnogaeth lwyr” i Meritxell Serret.

Mae plaid CUP hefyd wedi beirniadu Llywodraeth Sbaen am geisio tawelu’r rhai sydd o blaid annibyniaeth.

Mae’r Sosialwyr hefyd wedi datgan eu cefnogaeth i Meritxell Serret, ond maen nhw’n dweud eu bod nhw’n barod i “barchu” penderfyniad y llys.

Fodd bynnag, dywed plaid Ciudadanos nad oes “neb uwchlaw’r gyfraith”, gan gyfeirio at Serret, y cyn-lefarydd Laura Borràs a Carles Puigdemont.

Mae nifer o wleidyddion eraill wedi dychwelyd adref, ond dydyn nhw ddim wedi bod gerbron llys eto ond mae ambell un yn wynebu cyfnod o garchar.