Bydd strategaeth gyntaf erioed Cymru i fynd i’r afael â throseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad yn cael ei lansio ar faes y Sioe Frenhinol ddydd Iau (Ebrill 27).

Gall troseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad fod ar sawl ffurf, megis dwyn offer amaethyddol, troseddau difrifol yn erbyn da byw, a dinistrio bywyd gwyllt a’u cynefinoedd.

Yn ôl amcangyfrifon, roedd lladradau cefn gwlad ar eu pennau eu hunain wedi costio £1.3m yn 2021.

Bydd y strategaeth ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a phedwar heddlu Cymru yn allweddol yn y frwydr yn erbyn troseddau o’r fath.

Bydd dull cydgysylltiedig a strategol yn ganolog i lwyddiant y strategaeth sy’n cael ei lansio.

‘Effaith ddinistriol’

Yn 2021, cafodd Rob Taylor ei benodi’n Gydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru, y rôl gyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig, a bydd yn arwain ar hwyluso’r strategaeth.

“Gall troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt gael effaith ddinistriol, gan effeithio ar gymunedau cefn gwlad, ffermwyr, bywyd gwyllt yn ogystal â chynefinoedd a’n treftadaeth,” meddai.

“Bydd lansio’r strategaeth gyntaf erioed hon yng Nghymru i integreiddio troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt, yn hanfodol wrth ddod â Llywodraeth Cymru, heddluoedd a phartneriaid ynghyd ochr yn ochr â’m rôl fel cydgysylltydd i fynd i’r afael â throseddau o’r fath.”

Ymhlith yr amcanion yn y strategaeth mae:

  • gweithio mewn partneriaeth i leihau troseddau a diogelu cymunedau cefn gwlad a bywyd gwyllt
  • datblygu rhwydweithiau effeithiol i rannu syniadau, arfer gorau, ac adnoddau
  • gwella’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi dioddefwyr sy’n profi troseddu mewn ardaloedd cefn gwlad, yn enwedig y rhai sydd fwyaf agored i niwed
  • darparu hyfforddiant a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau mewn ystod eang o faterion sy’n gysylltiedig â throseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad, gan elwa i’r eithaf ar asiantaethau partner
  • gwella’r gwaith o gasglu data a rhannu gwybodaeth ymhlith partneriaid ac asiantaethau gorfodi
  • defnyddio technoleg ac arloesi i ddiogelu cymunedau cefn gwlad a bywyd gwyllt.

Mae’r strategaeth wedi’i theilwra i anghenion Cymru ac fe fydd yn cael ei chyflwyno drwy chwe grŵp blaenoriaeth:

  • troseddau adar
  • troseddau fferm
  • cynefinoedd
  • mamaliaid a rhywogaethau gwarchodedig Ewropeaidd
  • goruchwylwyr gwledig heddlu Cymru
  • iechyd meddwl a cham-drin domestig.

“Mae gan y strategaeth amcanion clir gan gynnwys cefnogi iechyd meddwl yn ein cymunedau cefn gwlada mynd i’r afael â cham-drin domestig,” meddai Rob Taylor wedyn.

“Byddwn yn dilyn y cynllun 4C i sicrhau llwyddiant – paratoi, atal, dilyn a diogelu.

“Mae hyn yn golygu paratoi ar gyfer pryd y gallai troseddau o’r fath ddigwydd, atal a rhwystro pobol rhag cyflawni’r troseddau hyn, parhau i fynd ar drywydd troseddwyr a diogelu cymunedau cefn gwlad a bywyd gwyllt rhag effaith troseddu.”

‘Cam mawr ymlaen’

Yn ôl Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, mae’r strategaeth yn “gam mawr ymlaen” yn y frwydr yn erbyn troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt.

“Mae gweithio mewn partneriaeth yn thema allweddol a dim ond drwy weithio gyda’n gilydd tuag at ein nod cyffredin y gallwn lwyddo,” meddai.

“Mae’r strategaeth yn gosod gweledigaeth glir i Gymru sydd wedi ei theilwra i anghenion ein gwlad.

“Gyda’r Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt fel pwynt cyswllt canolog, rwy’n hyderus y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau cefn gwlad.”

‘Heriau unigryw cymunedau gwledig’

“Rwy’n edrych ymlaen at groesawu cynrychiolwyr i Lanelwedd, ac at lansio’r Strategaeth gyntaf erioed ar gyfer Cymru gyfan ynghylch Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad,” meddai Dr Richard Lewis, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys.

“Mae’r strategaeth hon yn strategaeth ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r Heddlu.

“Nod y strategaeth arwyddocaol a holistaidd hon yw gwella plismona ar draws cefn gwlad Cymru a hefyd fynd i’r afael â’r heriau unigryw y mae ein cymunedau gwledig yn eu hwynebu.

“Bydd y digwyddiad hwn yn dwyn ynghyd unigolion ar draws y sector ac rwy’n edrych ymlaen at glywed am y gwaith arloesol sy’n digwydd er mwyn gwarchod ein cefn gwlad a’n bywyd gwledig.”