Mae Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig Llafur yn San Steffan, wedi beirniadu’r “cynydd aruthrol” yn y defnydd o fanciau bwyd dros y flwyddyn ddiwethaf.
Daw hyn wrth i’r Trussell Trust ddatgelu bod nifer y pecynnau bwyd brys sydd wedi’u darparu dros y flwyddyn ddiwethaf wedi cyrraedd eu lefelau uchaf.
Yn ôl Jo Stevens, mae’r sefyllfa’n datgelu’r “pris mae pobol yng Nghymru’n ei dalu am 13 o flynyddoedd o fethiant economaidd y Torïaid”.
“Mae banciau bwyd yn camu i mewn oherwydd bod gweinidogion Ceidwadol yn San Steffan wedi gadael i chwyddiant gynyddu, wedi codi trethi uwch ar bobol sy’n gweithio, ac wedi crasio’r economi gan orfodi morgeisi a rhent i godi,” meddai.
“Bydd Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn rhoi cefnogaeth i wneuthurwyr a phroseswyr bwyd ynni-ddwys gartref ostwng costau bwyd, wedi’i dalu â threth ffawdelw go iawn ar gewri olew a nwy.”