Fe fu dadl fawr ymhlith cynghorwyr wrth i gynnig i Gasnewydd ddod yn Ddinas Noddfa gael ei gefnogi.

Nod Dinas Noddfa yw rhoi cefnogaeth, urddas a chroeso i bob mewnfudwr.

Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan y cynghorwyr Llafur Emma Stowell-Corten a James Clarke.

“Mae’r Cyngor hwn a phobol Casnewydd wedi croesawu a derbyn ffoaduriaid a cheiswyr lloches,” meddai’r Cynghorydd Emma Stowell-Corten, sy’n cynrychioli ward Ringland.

“Mae gennym ni hanes balch o integreiddio a chynhwysiant, ac mae ein dinas yn fwy diddorol, amrywiol a goddefgar o ganlyniad i hyn.”

Beirniadaeth

Yng nghyfarfod llawn y Cyngor ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 25), fe wnaeth cynghorwyr Ceidwadol feirniadu’r cynnig fel “tanio pitw” at Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae’r cynnig yn galw ar arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyda’u pryderon am y Bil Mewnfudo Anghyfreithlon, fyddai’n gweld ceiswyr lloches yn cael eu halltudio i Rwanda a gwledydd eraill sy’n cael eu hystyried yn ddiogel.

Mae hefyd yn gofyn i’r arweinydd gefnogi partneriaid a rhanddeiliaid sy’n gweithio tuag at y statws Dinas Noddfa.

Fe wnaeth nifer o gynghorwyr Llafur ladd ar Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn ystod y ddadl, gyda’r Cynghorydd Laura Lacey yn eu disgrifio nhw fel “diwerth”.

Fe wnaeth y Cynghorydd John Reynolds ddadlau y dylid ailenwi’r Bil Mewnfudo Anghyfreithlon yn “fil anghyfreithlon, anfoesol, annynol”.

Ceidwadwyr yn taro’n ôl

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Evans, arweinydd y Grŵp Ceidwadol, fod ei fewnflwch yn llawn cwynion gan drethdalwyr am doriadau i wasanaethau a rhestrau aros am dai.

“Alla i wir ddim cofio’r tro diwethaf i rywun gysylltu â fi yn dweud nad ydyn ni’n gwneud digon i helpu ceiswyr lloches neu ffoaduriaid,” meddai.

Mae Casnewydd yn ardal gwasgaru lloches, felly mae’r Swyddfa Gartref yn symud ceiswyr lloches i’r ardal ac i ofal y Cyngor.

Fe wnaeth Jane Mudd, arweinydd y Cyngor, gefnogi’r cynnig, gan ddweud, “Dw i’n ostyngedig wrth glywed straeon pobol dw i wedi cwrdd â nhw.

“Pobol sydd wedi gorfod ffoi am eu bywydau, gadael eu cartrefi, eu teuluoedd a’u bywydau ar ôl.

“Dyma straeon am oroesi, gwytnwch a gobaith.”

Hollti barn

Dywedodd y Cynghorydd Pat Drewett fod ei deidiau’n fewnfudwyr o Iwerddon a Norwy, a dywedodd ei fod yn cefnogi’r cynnig yn gryf gan y byddai’n parhau â thraddodiad Casnewydd o gefnogi mewnfudwyr.

Un arall wnaeth ei gefnogi oedd Deb Davies, y dirprwy arweinydd, gan ddweud, “Rydyn ni’n ddinas gafodd ei sefydlu ar fewnfudo a bydd hyn yn parhau, a bydd y rheiny sydd â’r anghenion mwyaf a’r rhai mwyaf bregus yn cael eu cefnogi.”

Ond fe wnaeth William Routley, y Cynghorydd Ceidwadol, wrthwynebu’r cynnig, gan ddweud, “Mae gan Gasnewydd hanes hir iawn o ddarparu noddfa, fodd bynnag alla i ddim pwysleisio digon fod rhaid i anghenion ein poblogaeth frodorol ein hunain ddod gyntaf.

“Rhaid i ni flaenoriaethu eu hangenion nhw a sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu gadael ar ôl.”

Cafodd y defnydd o’r gair “brodorol” ei feirniadu gan gynghorwyr Llafur.

Fe wnaeth Kevin Whitehead, y Cynghorydd Annibynnol dros Bettws, ddisgrifio’r cynnig fel un “nobl”, ond dywedodd fod angen ymgynghori â thrigolion.

“Fel Cyngor, mae gennym ni ddyletswydd i bawb,” meddai.

Dywedodd Miqdad Al-Nuaimi, y Cynghorydd Llafur, y byddai’n cefnogi’r cynnig, ond gan ychwanegu, “Mae gennym ni ddyletswydd o ofal i bobol Casnewydd yn ogystal â’r rheiny rydyn ni’n cynnig noddfa iddyn nhw.”

Dywedodd Allan Morris, y Cynghorydd Annibynnol, y byddai aelodau etholedig Lliswerry yn atal eu pleidlais gan y dylai’r Cyngor fod yn canolbwyntio ar faterion lleol.

“Pa mor aml ydyn ni’n treulio amser yn y siambr yma’n trafod canol y ddinas, diffyg cyfleusterau sydd gan blant i chwarae, cyflwr safleoedd y Cyngor, pa mor hir mae’n ei gymryd i ateb ffôn yn y ganolfan ddinesig?

“Rydyn ni yma i gynrychioli pobol Lliswerry a chyflwyno pethau y gallwn ni wneud gwahaniaeth iddyn nhw.

“Dydyn ni ddim yn gweld y dylai’r Cyngor fod yn gwastraffu eu hamser yn anfon llythyron at y Prif Weinidog fydd yn cael eu lluchio, rydyn ni yma i ymdrin â materion Casnewydd a dydyn ni ddim yn gweld bod hyn o fewn ein gorchwyl ni.”

‘Aelodau Seneddol, nid y Llywodraeth’

Dywedodd Ray Mogford, y Cynghorydd Ceidwadol, y dylai’r Cyngor fod yn ymgysylltu ag Aelodau Seneddol lleol yn hytrach nag ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Maen nhw yno i wneud y gwaith hwnnw, ac maen nhw’n cael eu talu i wneud y gwaith hwnnw,” meddai’r Cynghorydd Ray Mogford, sy’n cynrychioli Bishton a Langstone.

“Gallai’r Cyngor gyflwynodd hyn fod wedi treulio’u hamser yn well yn ymgysylltu ag Aelodau Seneddol.”

Ruth Jones sy’n cynrychioli Gorllewin Casnewydd, a Jessica Morden sy’n cynrychioli Dwyrain Casnewydd, a’r ddwy yn cynrychioli Llafur.