Bydd David Simpson, arweinydd Cyngor Sir Penfro, yn wynebu pleidlais hyder mewn cyfarfod fis nesaf.

Bydd Cyfarfod Eithriadol o Gyngor Sir Penfro ar ddydd Iau, Mai 18 yn ystyried Hysbysiad Cynnig o ddiffyg hyder yn arweinydd Cyngor Sir Penfro.

Cafodd yr Hysbysiad Cynnig ei gyflwyno gan y Cynghorydd Jamie Adams ar ran y Grŵp Annibynnol.

Bydd yn rhaid derbyn unrhyw enwebiadau ar gyfer rôl yr Arweinydd erbyn dydd Gwener, Mai 5.

Daeth y Cynghorydd David Simpson, Cynghorydd Llanbedr Felfre, yn arweinydd yn 2017, ar ôl gadael y grŵp IPPG oedd yn rheoli, ar ôl colli hyder yn y ffordd roedd y Cabinet yn cael ei redeg gan y Cynghorydd Jamie Adams, yr arweinydd ar y pryd.

Mae David Simpson a Jamie Adams wedi derbyn cais am ymateb.

Mae’r Cyfarfod Eithriadol yn cael ei gynnal yn Neuadd y Sir Hwlffordd, ac yn cael ei ddarlledu ar y we.

Ymateb David Simpson

Mae David Simpson wedi ymateb yn chwyrn i’r bleidlais hyder ynddo.

“Dw i’n falch o arwain gweinyddiaeth uchelgeisiol sydd wedi, ac sy’n parhau i weithredu er lles pobol Sir Benfro,” meddai.

“Y weinyddiaeth hon sydd wedi cefnogi datblygiad Sir Benfro fel cadarnle ynni gwyrdd yn y Deyrnas Unedig, y weinyddiaeth hon y mae ei huchelgais ddiflino dros ein sir sydd wedi cyflwyno statws porthladd rhydd ddim ond ychydig wythnosau yn ôl, a’r weinyddiaeth hon sydd â’r weledigaeth a’r penderfyniad i wneud ein sir y lle mwyaf deinamig, blaengar a bywiog y gall fod.

“Dw i’n falch ein bod ni wedi bod yn agored ac yn atebol o’r dechrau’n deg, ac wedi cynyddu’r ymgysylltu ar y Gyllideb ar raddfa heb ei hail.

“Rydyn ni wedi symud oddi wrth unbennaeth heb graffu.

“Mae llawer o’r hyn mae’r Cynghorydd Adams yn ei nodi fel methiannau yn gyhoeddus oherwydd mae’r weinyddiaeth hon yn agored a gonest â’i haelodau a threthdalwyr.

“Yn sicr, fyddech chi ddim wedi gweld y lefel honno o ymgysylltu neu agoredrwydd pan oedd y ‘Grŵp Gwleidyddol Annibynnol’ yn arwain y Cyngor.

“Rydyn ni wedi dod â democratiaeth yn ôl i’r Siambr ac wedi symud oddi wrth gytundebau blêr y tu ôl i ddrysau caëedig ac oddi wrth swyddogion uwch yn arwain aelodau gerfydd eu trwynau, wedi’u cefnogi gan bleidlais bloc yr hen Grŵp Gwleidyddol Annibynnol sydd heb atebolrwydd.

“Gall y weinyddiaeth hon fod yn falch ein bod ni wedi gweithio’n galed i roi trefn ar gyllid, gafodd ei adael mewn llanast gan yr IPG.

“Rydyn ni’n ailadeiladu gwasanaethau’r Cyngor, yn creu’r isadeiledd sydd ei angen arnom ar gyfer y dyfodol, ac yn adfywio economi Sir Benfro; ac fe wnaeth y Grŵp Annibynnol esgeuluso’r cyfan am ugain mlynedd a bydden nhw’n ei beryglu yn y dyfodol.

“Dw i ddim yn credu bod unrhyw ddyhead i ddychwelyd i’r dyddiau hynny, naill ai ymhlith fy nghyd-gynghorwyr neu’n bwysicach fyth ymhlith y cyhoedd yn Sir Benfro.”

Cyfeiriodd y Cynghorydd David Simpson at Adroddiad Archwilio Cymru diweddar o fis Chwefror, gan ddyfynnu, “Mae’r Cyngor wedi cynnal sefyllfa ariannol sefydlog, gan gynnwys drwy gyflawni cynilion gafodd eu cynllunio a thrwy gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, i gynnal mantolen. ac mae wedi cynyddu’r arian wrth gefn sy’n gallu cael ei ddefnyddio.

“Ond bydd angen i’r Cyngor ddatblygu cynllun ariannol cynaladwy i fynd i’r afael â’r pwysau sylweddol sydd i ddod.”