Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi cyhuddo Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, o “ddwyn” £6bn oddi ar reilffyrdd Cymru.
Mae hyn am fod prosiectau HS2 a Phwerdy’r Gogledd yn Lloegr wedi cael eu dosbarthu fel prosiectau ‘Cymru a Lloegr’, sy’n golygu nad yw Cymru’n derbyn arian yn gyfnewid amdanyn nhw – yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon.
Byddai cyfran o arian yn seiliedig ar boblogaeth o ran HS2 yn arwain at £5bn canlyniadol ar gyfer Cymru, a £1bn o brosiect Pwerdy’r Gogledd.
Dywed Liz Saville Roberts ei bod hi’n “anhygoel” nad oes ffordd o deithio ar drên o’r de i’r gogledd heb orfod teithio drwy Loegr.
Yn ôl Trafnidiaeth Cymru, byddai cwblhau’r rheilffordd rhwng Bangor ac Abertawe’n costio oddeutu £2bn, traean yn unig o’r arian sy’n ddyledus i Gymru.
Dadl yn y Senedd
Mae Plaid Cymru’n cynnal dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Ebrill 26) yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi’r arian canlyniadol llawn i Gymru.
Er bod disgwyl i Lafur a’r Ceidwadwyr gefnogi’r cynnig, dydy’r naill na’r llall yn Llundain ddim wedi ymrwymo i roi’r arian i Gymru.
Mae Plaid Cymru hefyd yn galw am ddatganoli isadeiledd rheilffyrdd i Gymru pe bai Syr Keir Starmer a Llafur yn dod i rym yn San Steffan.
“Mae’n anhygoel fod rhaid i unrhyw deithiwr sydd eisiau teithio ar drên o ogledd i dde Cymru yn gorfod mynd trwy Loegr,” meddai Liz Saville Roberts.
“Byddai cysylltu de a gogledd Cymru’n costio £2bn.
“Mae’r Prif Weinidog yn siarad am ‘redeg i ffwrdd ag arian pobol eraill’, ond mae ei Lywodraeth yn amddifadu Cymru o £6bn drwy farnu bod cysylltiadau rheilffyrdd o dde i ogledd Lloegr fel HS2 rywsut o fudd i Gymru.
“A wnaiff e bledio’n euog i Ladrad Mawr Trenau Cymru?”
Ymateb Rishi Sunak
Wrth ymateb, dywedodd Rishi Sunak fod ei lywodraeth yn awyddus i gydweithio â Llywodraeth Cymru.
“Rydyn ni bob amser eisiau cydweithio â Llywodraeth Cymru i weld lle gallwn ni weithredu ar y cyd er lles pobol yng Nghymru,” meddai yn San Steffan.
“Mewn gwirionedd, rydyn ni’n buddsoddi symiau o arian sy’n torri record mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru drwy’r gronfa codi’r gwastad a’r gronfa berchnogaeth gymunedol.”
Cefnogaeth gan y Ceidwadwyr
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi datgan eu cefnogaeth i gynnig Plaid Cymru.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y dylai Cymru dderbyn arian ychwanegol o ganlyniad i HS2, ond dydy hynny ddim yn golygu na fydd y prosiect yn dod â buddion uniongyrchol ac anuniongyrchol i Gymru, gyda 44 o gyflenwyr HS2 yn fusnesau bach Cymreig,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y blaid.
“Bydd HS2 yn darparu amserau teithio cyflymach i’r rheiny yng ngogledd Cymru drwy Crewe, ond dydy’r manteision mae’n dod â nhw i Gymru ar y cyfan ddim yn ddigon arwyddocaol i’w ddynodi’n ‘Gymru a Lloegr’.
“Hoffem weld Cymru’n derbyn ei chyllid canlyniadol ar gyfer HS2, ond i’r cyllid hwn gael ei ddyrannu’n uniongyrchol i Network Rail yn hytrach na Llywodraeth Cymru, oherwydd does dim modd ymddiried yn Llafur i fuddsoddi mewn ffordd ddoeth yn isadeiledd rheilffyrdd Cymru.”