Mae angen i Lywodraeth Cymru ddweud yn glir sut maen nhw’n cefnogi ymdrechion brys i recriwtio nyrsys er mwyn ailagor adrannau yn Ysbyty Tywyn, yn ôl Aelod o’r Senedd yr ardal.

Cafodd ward cleifion mewnol yr ysbyty ei chau yn ddiweddar yn sgil prinder staff, ac mae ailagor Uned Ward Cleifion Mewnol a Mân Anafiadau’r ysbyty yn ddibynnol ar recriwtio wyth nyrs.

Wrth ateb cwestiwn gan yr Aelod o’r Senedd Mabon ap Gwynfor yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 25), dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod angen “recriwtio dwys yn lleol ac yn rhyngwladol” i fynd i’r afael â phrinder staff.

Ers cael buddsoddiad o £5m yn 2013, mae’r ysbyty wedi colli gwasanaethau mamolaeth, Uned Man Anafiadau, a nawr y ward cleifion mewnol.

‘Tro am y gwaethaf’

Cododd Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, y mater gyda’r Prif Weinidog yn y Senedd.

“Nôl yn 2013 fe wnaeth y Gweinidog Iechyd ar y pryd, ein Prif Weinidog presennol, groesawu buddsoddiad o £5m i Ysbyty Cymunedol Tywyn. Wrth gyhoeddi’r buddsoddiad dywedodd: ‘Bydd cynnydd yn nifer y gwelyau ac integreiddio nifer o wasanaethau yma yn galluogi mwy o bobol i gael gofal yn agosach i’w cartrefi mewn amgylchedd sy’n addas i’w bwrpas.

“Ddegawd yn ddiweddarach ac mae pethau wedi cymryd tro dramatig er gwaeth. Mae’r Uned Famolaeth wedi cau, mae’r Uned Mân Anafiadau wedi ei chau, a dim ond pythefnos yn ôl a heb rybudd, cafodd y ward cleifion mewnol ei chau.

“Dyma’r union wasanaethau a gafodd eu brolio gan y Prif Weinidog ’nôl yn 2013.

“Mae colli’r gwasanaethau yma yn bennaf o ganlyniad i fethiant i gadw a recriwtio staff – yn enwedig nyrsys.

“Bydd yr hyn rydym yn ei weld yn Nhywyn yn cael ei ailadrodd mewn mannau eraill. Er mwyn ailagor y ward cleifion mewnol, mae angen pedair nyrs arnom ar Fandiau 6 a 7 a phedair arall i ailagor yr Uned Mân Anafiadau.

“Pa gamau mae’r llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi’r bwrdd iechyd i recriwtio nyrsys i Dywyn a gogledd Cymru fel bod modd i fy etholwyr gael gofal yn agosach i adref ac mewn amgylchedd sy’n addas i’w bwrpas?”

‘Haeddu dim llai’

Yn ddiweddar, bu Mabon ap Gwynfor a Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, yn cwrdd â phenaethiaid Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i ofyn am sicrwydd brys o ddarpariaeth gofal tymor byr a hirdymor yn Ysbyty Tywyn.

“Cyfarfuom yn ddiweddar â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyfleu ein pryderon ynghylch y modd sydyn y cafodd y penderfyniad hwn ei gyfleu ac i geisio sicrwydd bod camau brys yn cael eu cymryd i gyflawni’r prinder staff ac ailagor y ward yn ddiogel,” meddai Liz Saville Roberts.

“Cytunodd swyddogion Betsi Cadwaladr i’n galw am amserlen glir ar gyfer ailagor y ward cleifion mewnol a’r Uned Mân Anafiadau, ynghyd a briff o strategaeth y bwrdd iechyd i recriwtio staff nyrsio a sut y bydd y swyddi hyn yn cael eu hysbysebu.

“Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd bob pythefnos gyda swyddogion Betsi Cadwaladr (y nesaf yr wythnos hon) i’n galluogi i ddiweddaru trigolion yr ardal a wasanaethir gan Ysbyty Tywyn.

“Dydy pobol Tywyn a Bro Dysynni yn haeddu dim llai.”

‘Recriwtio dwys’ 

“Beth mae’r bwrdd iechyd wedi’i wneud, am y tri mis nesaf, yw casglu’r staff sydd ganddyn nhw yn Nolgellau fel y gellir cael gwasanaeth yno,” meddai Mark Drakeford wrth ymateb.

“Fy nealltwriaeth i yw, ar Ebrill 12, pan gafodd y penderfyniad ei wneud, roedd wyth claf mewn gwelyau cleifion mewnol yn Nhywyn, roedd pedwar ohonyn nhw ar fin cael eu rhyddhau, a phedwar ohonyn nhw am gael eu symud i Ddolgellau i barhau â’u gofal.

“Mae gan y bwrdd iechyd gynlluniau i ailagor gwasanaethau yn Nhywyn.

“Mae hynny yn golygu bod angen recriwtio dwys yn lleol ac yn rhyngwladol – cafodd 400 o nyrsys eu recriwtio i Gymru o du hwnt i’r Deyrnas Unedig y llynedd, ac rydyn ni’n bwriadu recriwtio 400 arall eleni.

“Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn gweithio gyda’i phartneriaid ar fodel newydd ar gyfer gwasanaethau yn Nhywyn, model arloesol newydd fydd yn defnyddio staff sy’n gweithio yn y gymuned ar y funud, ynghyd â staff sydd yn yr ysbyty  – i gyd gyda’r nod o adfer y gwasanaethau sydd wedi cael eu cau dros dro yn yr ysbyty.”