Mae adroddiad gan griw o bobol ifanc o Gymru’n dangos bod costau byw, iechyd meddwl a lles, a chaethiwed a chamddefnyddio sylweddau ymysg y materion pwysicaf i’r genhedlaeth iau.

Cafodd Adroddiad Cymru Ifanc i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant ei gyd-gynhyrchu gan chwe ymchwilydd gwirfoddol ifanc, ynghyd â staff Cymru Ifanc.

Roedd canfyddiadau’r adroddiad yn seiliedig ar ddata gan 41 o ymgynghoriadau â phobol ifanc rhwng 2020 a 2022, gyda thros 1,000 o bobol ifanc yn cyfrannu at y broses.

Fe wnaeth y grŵp gyflwyno’r adroddiad yn ystod ymweliad â Genefa ar gyfer cyfarfod Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ym mis Chwefror, ond ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 25), fe wnaeth Gweinidog Newid Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ganmol eu gwaith.

Cafodd yr adroddiad ei lansio’n ffurfiol yn y Senedd ddoe gan Julie Morgan a’r ymchwilwyr ifainc.

‘Clywed llais pobol ifanc’

Dywed Arthur, un o ymchwilwyr Cymru Ifanc – sy’n fenter gan Plant yng Nghymru sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru – fod hawliau plant yn “darparu fframwaith cadarn sy’n arwain pobol ifanc i’r dyfodol gorau posib”.

“Mae’r broses adolygu gyfnodol wedi cynnig cyfle inni fel gwirfoddolwyr Cymru Ifanc i graffu ar gyflwr hawliau plant yng Nghymru, gan ddefnyddio lleisiau amrywiol plant a phobol ifanc sydd yr un oed â ni, a llunio argymhellion,” meddai.

“Mae cymryd rhan yn y broses hon a chynrychioli pobol ifanc Cymru yn sicr wedi bod yn brofiad unwaith mewn oes.

“Wrth gymryd cam yn ôl, gallwn werthfawrogi pa mor bell rydym wedi dod, a ble allwn fynd yn y dyfodol.”

Ychwanegodd un o’i gyd-ymchwilwyr, Ayse iddi gael “profiad gwych ar y darn o waith hwn”, gan “obeithio y bydd ein gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobol ifanc yng Nghymru”.

“Mae’n bwysig iawn imi bod gan bobol ifanc lais a bod modd eu clywed,” meddai.

‘Cyfraniad gwerthfawr’

“Gwnaethant ymgysylltu’n eang â phlant a phobol ifanc ledled Cymru er mwyn gallu rhannu eu barn ar faterion sy’n bwysig iddynt,” meddai Julie Morgan, wrth ddiolch iddyn nhw am eu gwaith.

“Mae’n wych bod y cynrychiolwyr a oedd wedi teithio i Genefa wedi gallu annerch aelodau Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ynghylch hawliau plant yng Nghymru.

“Rwyf am ddiolch eto i’r grŵp hwn, sydd wedi gwneud argraff fawr arnaf, am y ffordd y gwnaethant gynrychioli plant a phobol ifanc eraill o’r un oed â nhw, ac am eu cyfraniad gwerthfawr wrth ein helpu i wneud Cymru yn lle hyfryd i dyfu i fyny.”