Wrth ymateb i’r sefyllfa bresennol yn Swdan, mae’n rhaid dysgu o’r camgymeriadau gafodd eu gwneud yn ystod yr ymgyrch i helpu pobol i adael Affganistan, yn ôl Cyngor Ffoaduriaid Cymru.
Daw eu galwadau wedi i’r awyren gyntaf yn cario dinasyddion y Deyrnas Unedig o’r wlad adael Swdan.
Mae’r Swyddfa Dramor wedi annog dinasyddion Prydeinig yn y wlad i anelu am faes awyr i’r gogledd o Khartoum, prifddinas Swdan.
Fore heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 25), roedd y Swyddfa Dramor wedi cynghori pobol i beidio â mynd i’r maes awyr oni bai eu bod nhw’n cael eu galw.
Ond erbyn dechrau’r prynhawn, roedd y cyngor wedi newid.
‘Dysgu o’r camgymeriadau’
Rhaid i Lywodraeth San Steffan wneud popeth fedran nhw i geisio tawelu’r sefyllfa yno, a chynnig ffyrdd diogel i bobol ddianc, yn ôl Cyngor Ffoaduriaid Cymru.
“Rydyn ni’n ddigalon iawn am y trais yn Swdan, ac yn annog Senedd y Deyrnas Unedig i wneud popeth fedran nhw i dawelu’r sefyllfa a chynnig ffyrdd diogel i’r rhai sy’n dianc o Swdan,” meddai llefarydd wrth golwg360.
“Rhaid i ni ddysgu o’r camgymeriadau gafodd eu gwneud yn yr ymdrech i helpu pobol i adael Affganistan, a chynnig ffyrdd diogel eraill i’r rhai sydd angen cael eu hamddiffyn er mwyn osgoi gorfodi pobol i wneud siwrnai peryglus ac anodd.
“Dydy bod yn ffoadur byth yn ddewis, ac rydyn ni’n barod i groesawu pobol o ble bynnag y dônt.
“Mae Cymru’n gartref i gymuned Swdanaidd fywiog, a bydd y wlad wastad yn Genedl Noddfa.”
Y sefyllfa
Mae tua 120 o filwyr Prydeinig yn y maes awyr ger Khartoum, meddai Ben Wallace, Ysgrifennydd Amddiffyn y Deyrnas Unedig.
Yn ôl y Prif Weinidog Rishi Sunak, bydd dwy awyren arall yn cario dinasyddion Prydeinig o Swdan heno, er y gallai hynny newid, meddai.
Mae’r cytundeb rhwng y ddwy ochr i beidio ymladd am 72 awr i’w weld yn dal yn y brifddinas, er bod adroddiadau o ymladd mewn rhannau eraill o’r wlad.
Mae cannoedd o bobol wedi cael eu lladd, a miloedd wedi cael eu hanafu, yn sgil yr ymladd rhwng y fyddin a lluoedd parafilwrol yn Swdan.
Daeth y ddwy ochr ynghyd yn 2019 i gael gwared ar y cyn-arweinydd Omar al Bashir, ond ers hynny maen nhw wedi bod yn anghytuno ar sut y dylid rhedeg y wlad.