Mae sylfaenydd deiseb sy’n galw am ddefnyddio’r enw Cymraeg yn unig ar lefydd yng Nghymru’n dweud nad yw’n teimlo’n “gyffyrddus” gyda label sydd wedi cael ei roi arno gan y Daily Mail.
Cyhoeddodd y papur newydd erthygl am y ddeiseb, gan alw Mihangel Ap Rhisiart yn “language extremist”.
Mae cannoedd o lofnodion ar y ddeiseb erbyn hyn, ac mae’r gŵr a’i sefydlodd yn credu ei bod yn bwysig fod pobol yn mynegi nad ydyn nhw’n hapus â’r sefyllfa bresennol, ac mai’r ffordd orau o annog pobol i ddefnyddio enwau Cymraeg ar lefydd yw drwy wneud yr enw Cymraeg yn enw swyddogol.
Er bod Mihangel Ap Rhisiart yn teimlo’n danbaid dros y mater, mae cryn wrthwynebiad wedi bod i’r ddeiseb gan eraill.
‘Awgrymu rhywun sy’n gwneud pethau drwg’
Dydy Mihangel Ap Rhisiart ddim yn meddwl ei bod yn deg iddo gael ei alw’n “language extremist”, gan fod y gair yn awgrymu rhywun sy’n gwneud pethau drwg.
Serch hynny, mae’n credu bod yr enw’n dangos teimladau gwrth-Gymraeg cryf sy’n crisialu’r mater.
“I fod yn onest, dydw i ddim yn siŵr os mae’n iawn cael fy ngalw’n extremist, oherwydd os wyt ti’n edrych yn y geiradur mae’r gair yn cael ei ddefnyddio o ran pobol sy’n gwneud pethau sy’n brifo pobol,” meddai wrth golwg360.
“Dydw i ddim yn siŵr beth maen nhw’n ceisio’i gyfleu wrth ddefnyddio’r gair extremist.
“Mae’n air sy’n agor cwestiynau o ran person, er enghraifft tasen nhw wedi dweud religious extremist neu political extremist…
“Dydw i ddim yn teimlo yn gyffyrddus efo cael fy ngalw yn extremist o ran y pwnc.
“Ond rwy’n meddwl bod unrhyw fath o ymateb gan y cyfryngau, sydd i fi yn dangos mewn ffordd amlwg bod rhyw fath o wrthwynebiad i’r iaith Gymraeg, yn dangos y sefyllfa yn gliriach o ran yr anti-Welsh sentiments sy’n bodoli o hyd.”
Hybu defnydd o’r enw Cymraeg
Dydy Mihangel Ap Rhisiart ddim yn credu mai trwy gael enw swyddogol dros nos y bydd pobol yn defnyddio’r enw Cymraeg ar lefydd.
Cam i’r cyfeiriad iawn yw gwneud enwau Cymraeg llefydd yn swyddogol, meddai, a bydd y broses o ddefnyddio’r enw Cymraeg yn cymryd blynyddoedd maith.
“Rwy’n credu bod y camau gyda Bannau Brycheiniog, gydag Eryri, yn eithaf dewr gan yr awdurdodau sydd wedi cymryd y camau yna,” meddai.
“Dydw i ddim yn gallu dychmygu, un dydd mae pobol am ddefnyddio’r enw Saesneg a’r diwrnod nesaf yr enw Cymraeg.
“Dyna pam rwy’ wedi dweud yn y ddeiseb, yn swyddogol mae yna un enw ar le.
“Wrth gwrs bod pobol am ddefnyddio’r enw Saesneg, am efallai blynyddoedd i ddod.
“Wrth newid rhywbeth yn swyddogol, mae cyfle i ddechrau newid dros y blynyddoedd i bobol dueddu i ddefnyddio’r enw Cymraeg – yn y diwedd, efallai dim ond yr enw Cymraeg.
“Felly dim ond cwestiwn o rywbeth swyddogol yw’r ddeiseb.
“Gyda llefydd yn Lloegr gydag enwau Cymraeg, os dw i’n sgwennu llythyr at rywun yn Cambridge, dydw i ddim yn sgwennu Caergrawnt ar yr amlen oherwydd mai Cambridge yw enw’r lle.
“Os mae rhywun yn Lloegr eisiau sgwennu llythyr at rywun sy’n byw yng Nghaerdydd, efallai yn eu bywyd maen nhw’n defnyddio’r gair Cardiff, ond ar yr amlen mae angen defnyddio’r gair Caerdydd oherwydd dyna enw’r lle.”
‘Does dim angen dau enw’
Am sawl rheswm egwyddorol ac ymarferol, mae Mihangel Ap Rhisiart yn credu y dylid cael enwau swyddogol yn Gymraeg yn unig.
“Mae mwy na un rheswm pam dwi’n credu y dylai dim ond fod enw Cymraeg ar lefydd yng Nghymru,” meddai.
“Mewn ffordd ymarferol, does dim angen dau enw.
“Er enghraifft, lle rwy’n byw, Brynaman.
“Mae dau enw ar y lle. Mae un ‘m’ yn Gymraeg. Mae dwy ‘m’ yn yr enw Saesneg.
“Rwy’n meddwl, beth yw’r pwynt o gael Brynaman Cymraeg a Brynamman Saesneg?
“Dydw i ddim yn deall yr angen i gael dau enw i rai llefydd, hyd yn oed gyda phethau fel Treorci sydd ychydig bach yn fwy gwahanol yn y Gymraeg, ond mae’n cael ei ynganu yn yr un ffordd ym mhob iaith.
“Does dim angen cael enw sy’n haws i bobol sydd ddim yn siarad Cymraeg i’w ddweud, oherwydd mae’n cael ei ddweud yn yr un ffordd.
“Gyda llefydd eraill, mae cwestiwn o hanes a diwylliant tu ôl i’r enwau.
“Er enghraifft, gydag Abertawe mae enw Cymraeg ac mae ystyr i’r enw.
“Yn y Saesneg, dydy’r ystyr yna ddim yn cael ei chyfleu.
“Does dim cysylltiad rhwng Swansea ac Abertawe.
“Dydw i ddim yn credu ei fod yn iawn cael enw hollol wahanol i’r enw sydd wedi cael ei roi ar le dros y blynyddoedd.
“Rydw i wedi cael ychydig o ymateb gan bobol, ei fod yn dweud rhywbeth drwg o ran y siaradwyr Saesneg.
“Mae’n gwneud pethau yn fwy anodd i bobol sydd ddim yn siarad Cymraeg.
“Dydw i ddim yn cytuno’n llwyr gyda hynny, oherwydd mae gennym Aberystwyth a Llanelli.
“Does dim enwau Saesneg ar y llefydd yna.
“Mae pobol dal i ddefnyddio nhw, pobol sydd ddim yn siarad Cymraeg.
“Dydw i ddim yn gweld bod yna broblem yn defnyddio Abertawe neu Caerdydd os wyt ti ddim yn siarad Cymraeg.
“Pan rydym yn siarad unrhyw iaith, mae rhaid i ni ddysgu pob gair y tro cyntaf rydym yn dod o hyd iddo.
“Mae gymaint o eiriau yn Saesneg sydd ddim yn edrych yr un ffordd ag maen nhw’n cael eu hynganu.
“Dydw i ddim yn gweld o fel rhyw fath o wrthwynebiad i Saesneg.
“I fi mae’n fwy o fater o drysori’r diwylliant Cymraeg gwreiddiol.”
Gwrthwynebiad i’r ddeiseb
Er bod y mater hwn yn agos at galon Mihangel Ap Rhisiart, mae cryn wrthwynebiad wedi bod i’r ddeiseb gan bobol o wahanol lefydd am wahanol resymau.
“Mae’r ymateb wedi bod yn eithaf cryf o ran y gwrthwynebiad, gan bobol yng Nghymru a thu allan, o ran pobol sydd eisiau gweld yr iaith yn marw a phobol sydd yn gweld o fel rhywbeth sydd ddim yn mynd i ddigwydd,” meddai.
“Mae’r iaith Saesneg yn rhywbeth rhy gryf i newid y sefyllfa.
“Hefyd, mae yna Gymry Cymraeg sydd wedi dweud bod y ddeiseb yn wastraff amser, oherwydd mae pethau mwy pwysig i wneud.
“Ond rwy’n credu bod unrhyw ymdrech i ddangos bod yna bobol sydd ddim yn hapus gyda’r sefyllfa, bod y sefyllfa fel mae ddim yn dderbyniol i bawb, hyd yn oed os mai dim ond 1,000 neu gwpl o filoedd o bobol sy’n llofnodi’r ddeiseb, mae’n dangos bod pobol eisiau dweud ‘dydy hyn ddim yn iawn’.”