Bydd mwy o arian nag erioed yn mynd tuag at amddiffynfeydd llifogydd fel rhan o fuddsoddiad newydd gan Lywodraeth Cymru.
Wrth siarad yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 25), fe wnaeth Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru gadarnhau buddsoddiad o £75m fydd yn mynd tuag at leihau’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru.
Bydd yr arian, gafodd ei gyhoeddi fel rhan o Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar gyfer 2023-24, yn cael ei roi i Awdurdodau Rheoli Risg i wneud y gwaith.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi croesawu’r ymrwymiad, gan ddweud y bydd yr arian yn caniatáu iddyn nhw ddatblygu cynlluniau i adeiladu a chynnal amddiffynfeydd.
Ar hyn o bryd, mae un ym mhob wyth eiddo – tua 245,000 o adeiladau – yng Nghymru mewn perygl o ddioddef llifogydd.
Bydd yr arian hefyd yn caniatáu buddsoddi mewn gwasanaethau rhybuddio a hysbysu, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae rhai o gynlluniau Cyfoeth Naturiol Cymru sydd wedi’u clustnodi i elwa ar raglen llifogydd 2023/24 yn cynnwys gwaith ym Mhorthmadog, Pwllheli, Aberteifi, Rhydaman a Stryd Stephenson yng Nghasnewydd.
‘Mabwysiadu dull ehangach’
“Byddwn yn parhau i adeiladu amddiffynfeydd rhag llifogydd a chynnal ein hamddiffynfeydd cyfredol,” meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth groesawu’r arian.
“Ond bydd angen i ni hefyd fabwysiadu dull ehangach o wella gallu Cymru i wrthsefyll tywydd eithafol.
“Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn gwasanaethau rhybuddio a hysbysu hanfodol, sy’n grymuso pobol i wybod a deall y perygl llifogydd sy’n eu hwynebu a’r camau y gallant eu cymryd er mwyn paratoi.
“Mae hefyd yn golygu rhoi mwy o bwyslais ar y dulliau dalgylch afon cyfan sydd eu hangen i fynd i’r afael â phroblemau llifogydd cymhleth.
“Mae rheoli llifogydd yn naturiol yn rhan o hyn, ac yn helpu i arafu llif y dŵr ar draws y dirwedd ac yn uwch i fyny yn y dalgylchoedd.
“Mae hefyd yn golygu gweithio gyda pherchnogion tir a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i wneud lle ar gyfer y lefelau aruthrol o ddŵr yr ydym yn eu gweld yn ystod llifogydd, a’u rheoli.”
‘Angen y buddsoddiad’
Mae’r cyllid wedi cael ei roi o gronfa gwerth £214m ar gyfer cynlluniau llifogydd, a chafodd ei gyflwyno fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
“Does dim amheuaeth bod angen y buddsoddiad yma,” meddai Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru.
“Mae adroddiadau diweddar gan y Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd, a Phwyllgor Newid Hinsawdd y DU wedi ailadrodd yr angen am fuddsoddiad parhaus mewn camau lliniaru, addasu a gwydnwch i ymateb i heriau cynhesu byd-eang.
“Ry’n ni’n gwybod y byddai effaith llifogydd wedi bod yn waeth oni bai am ein rhwydwaith ni o amddiffynfeydd a gwaith diflino ein Hawdurdodau Rheoli Risg.
“Dyna pam rydym yn parhau i ddarparu’r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad, er mwyn galluogi ein Hawdurdodau Rheoli Risg i adeiladu a chynnal yr isadeiledd rydym yn dibynnu arno i gadw ein cymunedau’n ddiogel rhag yr heriau a achosir gan newid hinsawdd.”