Mae Plaid Cymru’n lansio cais i roi’r hawl i geiswyr lloches weithio yn y Deyrnas Unedig ar ôl chwe mis. Yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd y blaid yn San Steffan, byddai’n mynd i’r afael â phrinder llafur ac yn rhoi hwb mawr ei angen i’r economi. Byddai hefyd yn rhoi’r offer i bobol ddechrau cael eu hintegreiddio’n llawn yn y gymdeithas yng Nghymru, meddai…


Mae ein heconomi’n dioddef o brinder llafur cronig o ganlyniad i Brexit, sy’n cyfrannu at argyfwng economaidd sy’n llosgi’n araf. Yn y cyfamser, mae ceiswyr lloches sydd â chryn sgiliau’n eistedd yn segur mewn canolfannau cadw, yn awyddus i gyfrannu at ein cymdeithas ond wedi’u gwahardd rhag gwneud hynny.

Byddai gwelliant Plaid Cymru’n rhoi’r hawl i geiswyr lloches sydd wedi’u cadw am chwe mis neu fwy i wneud cais am ganiatâd i weithio, gan gynnwys hunangyflogaeth a gwaith gwirfoddol. Gallai hyn roi hwb mawr ei angen i’n heconomi.

Fe wnaeth Cyngor Ffoaduriaid Cymru gefnogi ein cais, gan ddweud, “Mae gan geiswyr lloches lawer o’r sgiliau mawr eu hangen i gyfrannu at y Deyrnas Unedig. I geiswyr lloches hwythau, byddai hyn yn rhoi’r offer iddyn nhw ddechrau cael eu hintegreiddio’n llawn mewn gwlad newydd.”

Dywedodd Seeye, ceisiwr lloches yng Nghaerdydd, wrthyf ei fod yn “colli gobaith”.

“Y cyfan dw i eisiau yw dyfodol disglair,” meddai. “Dw i’n ifanc, galla i weithio. Dw i’n barod i ddechrau fory ac i ofalu amdana i fy hun. Gyda gwaith, gallwn dalu am rent, treth y cyngor hyd yn oed, a pheidio gorfod dibynnu ar fudd-daliadau.”

Mae ymchwil yn dangos bod bron i saith ym mhob deg o fusnesau’n cefnogi hawl ceiswyr lloches i gael gweithio. Dyma gyfle Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddangos eu bod yn cael ei yrru gan ddeilliannau polisi, ac nid gan ddyhead yn unig i wneud bywydau ceiswyr lloches mor ddiflas â phosib.