Mae ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu cloddio glo wedi bod yn cynnal protest wedi’u gwisgo fel Merched Beca ar risiau’r Senedd yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 25).
Cafodd y brotest ei threfnu gan y Rhwydwaith Gweithredu Glo, ac maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb ar unwaith i roi stop ar gloddio am lo ac felly gostwng allyriadau carbon y wlad.
Mae’r ‘Merched Beca’ modern yn cynnwys aelodau sy’n byw ger pwll glo agored Ffos-y-fran ger Merthyr Tudful.
Roedd disgwyl i’r cloddio ddod i ben yno ym mis Medi 2022, ond mae trigolion yr ardal yn honni bod cloddio’n parhau i ddigwydd yno.
Fe fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gwneud penderfyniad ar gais gan gwmni Merthyr (South Wales) Ltd am estyniad i gloddio yno fory (dydd Mercher, Ebrill 26).
‘Effaith afresymol’
“Rydyn ni’n gwisgo fel oedd pobol yn ei wneud yn ystod protestiadau Merched Beca, mewn ffrogiau ac yn galw ein hunain yn ‘Rebeca’ fel wnaeth pobol yn y 19eg ganrif i brotestio yn erbyn tollau annheg,” eglura un ‘Rebeca’, sy’n gweithio i’r Rhwydwaith Gweithredu Glo, wrth golwg360.
“Rydyn ni’n protestio yn erbyn yr effaith afresymol mae glo yn ei gael ar y bobol sy’n creu’r lleiaf o broblemau i newid hinsawdd.
“Rydyn ni wedi bod yn sefyll tu allan i’r Senedd, ar y grisiau, yn ein ffrogiau gyda baner yn dweud ‘Stop coal mining’s toll’ er mwyn ymgyrchu yn erbyn Llywodraeth Cymru ddim yn stopio pwll glo Aberpergwm yng Nghastell-nedd Port Talbot rhag cael ei ymestyn.
“Mae’r Rhwydwaith Gweithredu Glo wedi mynd â’r mater hwn i’r llys, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y barnwr yn mynd â’r mater yn ôl at Lywodraeth Cymru fel eu bod nhw’n ail-wneud y penderfyniad hwnnw.”
Cafodd cynlluniau i ymestyn y gwaith cloddio yn Aberpergwm yng Nghwm Nedd eu cymeradwyo fis Ionawr y llynedd gan yr Awdurdod Glo, sy’n rhan o Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Fodd bynnag, mae ymgyrchwyr yn dadlau bod gan Lywodraeth Cymru yr awdurdod i atal y drwydded i gloddio am ddeugain miliwn tunnell ychwanegol o lo.
Mae Llywodraeth Cymru’n dadlau bod y drwydded wreiddiol wedi’i rhoi cyn bod ganddyn nhw awdurdod ar y mater.
“Roedden ni hefyd ar risiau’r Senedd gan fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn penderfynu a ydyn nhw am ganiatáu cloddio ym mhwll glo agored Ffos-y-fran tan fis Mawrth 2024, pan ddylai fod wedi stopio cloddio ers 2022.
“Maen nhw wedi bod yn cloddio heb drwydded ers hynny, ac mae’r Cyngor wedi methu â gweithredu.”
‘Sefyllfa frys’
Ynghyd â’r galwadau ar Lywodraeth Cymru a Chyngor Merthyr Tudful, maen nhw am weld cais i ymestyn dyddiad cloddio ym mhwll Glan Lash yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei wrthod.
At ei gilydd, mae tua 44m tunnell o lo yn y pyllau hyn, a byddai tua 1.8m tunnell o fethan yn cael ei ryddhau wrth gloddio, a 106m tunnell o garbon deuocsid yn cael ei greu wrth ddefnyddio’r glo.
Y disgwyl yw y byddai’r glo’n cael ei werthu i waith glo Port Talbot.
“Mae’r sefyllfa o ran newid hinsawdd yn un lle mae brys mawr i weithredu, a dydy Llywodraeth Cymru nag awdurdodau lleol Cymru ddim yn delio gyda’r mater efo’r brys [hwnnw].
“Rydyn ni’n galw ar [Gyngor Merthyr Tudful] i wneud y penderfyniad iawn fory, ac i stopio Aberpergwm a Glan Lash rhag cael eu hymestyn.”
‘Ugain mlynedd o uffern’
Dywedodd ‘Rebeca’ arall, Alyson Austin, sy’n byw gyferbyn â Ffos-y-fran, fod trigolion Merthyr wedi gorfod dioddef effeithiau’r pwll glo ers dros bymtheg mlynedd.
“Maen nhw wedi bod yn cloddio ers 16 mlynedd ac rydyn ni’n byw yn agos iawn at y pwll glo, ac mae e wedi effeithio ni o ran sŵn, llwch,” meddai wrth golwg360.
“Rhwng yr ymgyrchu a byw drwyddo fe, mae wedi bod yn ugain mlynedd o uffern.
“Dw i’n eithriadol o flin â dweud y gwir, roedden ni’n disgwyl i bethau orffen yno ym mis Medi ac roedden ni’n disgwyl i ddathlu.
“Roedden ni wedi’n cythruddo bod rhaid i ni ddioddef wyth mis arall o gloddio anghyfreithlon am lo, a bod bygythiad bod hynny am bara’n hirach fyth nawr.
“Pryd fydd e byth yn ddigon? Pryd fyddan nhw’n dweud mai digon yw digon?
“Wnawn nhw byth ddweud hynny cyn belled â bod yna lo yn y ddaear a’u bod nhw’n gallu gwneud arian.
“Mae pawb yn dweud mai nawr yw’r amser i orffen cloddio yno, eu bod nhw wedi goddef digon.
“Dydyn ni ddim angen y glo, dydy [gorsaf] Aberddawan ddim yn bodoli ddim mwy, dydy Tata ddim angen y glo.
“Oni bai am arian, does yna ddim angen y glo yma o gwbl.”
Roedd y brotest yn “hyfryd”, a digonedd o bobol yn ngyffiniau’r Senedd yn barod i drafod, meddai.
Ymateb
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi rhoi cyfarwyddyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
“Heb awdurdod gweinidogion Cymru, mae’r cyfarwyddyd yn atal y Cyngor rhag rhoi caniatâd cynllunio i’r cais presennol ymestyn y cyfnod cloddio ar safle Ffos-y-fran,” meddai.
“Mae gan awdurdodau cynllunio lleol bwerau i ymchwilio i honiadau ynglŷn â datblygiadau anawdurdodedig a nhw sy’n gyfrifol, yn y lle cyntaf, dros ystyried gweithredu i orfodi’r amodau.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful am ymateb.