Mae mam a llystad y ferch fach Lola James o Geredigion wedi cael eu carcharu yn dilyn ei marwolaeth.
Bu farw’r ferch ddwy oed yn dilyn ymosodiad erchyll, ac mae Kyle Bevan wedi’i garcharu am oes am lofruddio’i lysferch.
Bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 28 o flynyddoedd dan glo.
Mae ei mam, Sinead James, wedi’i charcharu am o leiaf chwe blynedd am achosi neu ganiatáu marwolaeth ei merch fach, gafodd anafiadau catastroffig i’w hymennydd yn 2020.
Cafodd yr achos ei gynnal yn Llys y Goron Abertawe, lle dywedodd y barnwr Mr Ustus Martin Griffiths fod y ferch fach wedi dioddef “ymosodiad parhaus, bwriadol a threisgar iawn”.
Roedd Kyle Bevan wedi honni bod y ferch fach wedi cael ei hanafu ar ôl cwympo i lawr y grisiau yn eu cartref, a hynny ar ôl i gi’r teulu ei gwthio.
Ond roedd ganddi dros gant o anafiadau ar ei chorff, gan gynnwys anafiadau difrifol iawn i’w hymennydd, a bu farw yn yr ysbyty yng Nghaerdydd.
Mae lle i gredu bod yr ymosodiad arni wedi para chwe awr a hanner, a bod hi wedi dioddef sawl ymosodiad gan Kyle Bevan dros gyfnod o fisoedd.
Dywedodd y barnwr fod Sinead James yn ymwybodol bod ei phartner yn dreisgar a pheryglus, ond nad oedd hi wedi amddiffyn ei merch fach rhagddo, a’i bod hi wedi blaenoriaethu ei pherthynas dros ei phlentyn.