Mae angen safle tramwy i Sipsiwn a Theithwyr sy’n teithio trwy’r de, er mwyn osgoi sefydlu gwersylloedd tebyg i’r un gafodd ei sefydlu yng Nghas-gwent yn ddiweddar.

Dyna mae’r cynghorydd sy’n gyfrifol am dai yn Sir Fynwy wedi’i ddweud wrth aelodau’r Cyngor wrth ymateb i bryderon am feddiannu maes parcio Canolfan Hamdden Cas-gwent, sydd drws nesaf i ysgol uwchradd y dref, yn ystod gwyliau’r Pasg yn ddiweddar.

Dywed y Cynghorydd Sara Burch, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros gymunedau, y bydd y Cyngor yn adolygu eu protocol o 2015 o ran sut y byddan nhw’n ymateb i wersylloedd heb awdurdod, ond mae hi’n dweud eu bod nhw hefyd yn credu bod angen safle newydd yn yr ardal sydd wedi’i wasanaethu gan yr M4.

Fe wnaeth Christopher Edwards, y Cynghorydd Ceidwadol dros ward St Kingsmark yng Nghas-gwent, amlinellu honiadau amrywiol o ladrata ac achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol oedd yn amrywio o sarhad geiriol i farbeciws ym maes parcio’r ganolfan hamdden tra bod y gymuned deithiol yno.

“Dw i’n gwerthfawrogi nad pob cymuned deithiol sy’n ymddwyn fel hyn, a dw i’n siŵr eu bod nhw’n brin, ond mae Cas-gwent wedi diodde’r gwaethaf o ganlyniad i hyn,” meddai wrth gyfarfod Cyngor Sir Fynwy ym mis Ebrill.

Mae’r Cynghorydd Christopher Edwards wedi gofyn pa gamau y byddai’r Cyngor yn eu cymryd yn y dyfodol er mwyn atal “maes parcio hanfodol a phrysur Cas-gwent” rhag cael ei “ddefnyddio a’i gamddefnyddio” yn y modd yma.

Dywedodd fod yna “safleoedd awdurdodedig” yn Sir Fynwy y gellid fod wedi eu defnyddio, a bod gan y Cyngor “ddyletswydd o ofal i drigolion, ysgolion a staff y Cyngor i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto”.

‘Camargraff’

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch mai “camargraff” yw fod yna safleoedd awdurdodedig ar gael i grwpiau sy’n galw heibio, ac nad oes yna’r fath safle ar goridor yr M4.

Dywedodd fod yna rai safleeodd dan berchnogaeth breifat ond na all y Cyngor gyfeirio pobol atyn nhw, a dywedwyd wrthi ei bod hi’n “annhebygol” y byddai grŵp mawr wedi cael croeso ar unrhyw safleoedd gwyliau.

Dywedodd y cynghorydd Llafur fod elusen Travelling Ahead wedi cynnal seminar yn ddiweddar ar gyfer cynghorwyr, a bod cydnabyddiaeth fod y sawl sy’n dymuno cynnal “ffordd o fyw deithiol draddodiadol” yn rhai o’r bobol sy’n wynebu’r “rhagfarn fwyaf” yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd fod y Cyngor yn dilyn cyngor Llywodraeth Cymru pan gaiff gwersyll ei sefydlu heb awdurdod, ac mai lles unrhyw blant ac oedolion bregus ar y safle yw eu dyletswydd gyntaf, a bod yna fynediad at ddŵr a chyfleusterau ymolchi a hylendid.

Bydd swyddogion iechyd yr amgylchedd hefyd yn gwirio beth yw bwriad y preswyliaid, a gall y Cyngor gymryd camau cyfreithiol i’w cyfeirio nhw at safle arall pe bai angen a phe bai’n briodol.

Dywedodd y byddai’r Cyngor bellach yn adolygu eu protocol ac y gallen nhw hefyd ystyried defnyddio bariau i atal mynediad, ond y gallai hyn achosi problem drwy droi twristiaid a defnyddwyr awdurdodedig eraill i ffwrdd.

“Byddwn yn edrych ar le mae bariau’n briodol ac yn gwthio am ddatblygu safle tramwy rhanbarthol ar goridor yr M4, ac yn cyflwyno safleoedd ar gyfer llefydd parhaol i deuluoedd teithiol lleol, ac yn adolygu’r protocol gafodd ei sefydlu yn 2015 er mwyn sicrhau ei fod yn addas at ei bwrpas,” meddai’r Cynghorydd Sara Burch.