Mae mam i ferch 16 oed sy’n fêpio yn dweud eu bod nhw i gyd “yn blasu fel losin”, a bod ei merch wedi’i chaethiwo’n llwyr.

Dywed y fam nad yw pobol ifanc yn teimlo’n “cŵl os nad oes gennych chi fêp”, a bod yna stigma ynghylch ysmygu ond fod fêpio yn ei “normaleiddio”.

Yn ei barn hi, dydy pobol ifanc ddim yn ymwybodol o’r risgiau a does dim ymchwil tymor hir ar yr effaith.

Peryg arall, meddai, yw y bydd pobol ifanc yn mynd ymlaen i ysmygu.

Gyda’i merch yn fêpio ers yn ifanc iawn, cafodd ei denu gan y blas tebyg i losin, a dydy hi bellach yn methu rhoi’r gorau iddi.

“Hyd y gwn i, mae fy merch wedi bod yn fêpio ers pan oedd hi’n 13, ac mae hi bellach yn 16,” meddai’r ddynes, sydd eisiau aros yn ddienw, wrth golwg360.

“Rwy’n meddwl ei bod hi wedi’i chaethiwo.

“Mae hi’n mynd trwy far elf bob dau ddiwrnod.

“Mae hi’n gwario £7 bob dau ddiwrnod oherwydd dydy hi ddim yn hoffi rhai rhad.

“Maen nhw fel dymis.

“Maen nhw’n rhoi’r blas iddyn nhw, yna maen nhw’n mynd yn gaeth i’r nicotin.

“Mae’r lliwiau a’r blasau gwahanol yn ddeniadol, maen nhw i gyd yn blasu fel losin.

“Rwy’n meddwl ei fod yn ffordd o wneud pobol ifanc yn gaeth iddyn nhw.

“Yna mewn blynyddoedd i ddod, gall y llywodraeth roi llawer o dreth arnyn nhw, codi ffortiwn arnyn nhw, ac maen nhw’n gaeth iawn iddyn nhw.”

Peryglon iechyd

Dydy’r ddynes ddim yn meddwl bod pobol ifanc yn ymwybodol bod fêpio hefyd yn beryglus.

Mae hi’n gofidio bod pobol ifanc yn fêpio bariau cryf oherwydd bod y blas yn well, a gofid arall sydd ganddi yw bod fêpio yn gam arall tuag at ysmygu.

“Maen nhw’n meddwl ei fod yn fwy diogel oherwydd dyma maen nhw wedi’i ddysgu,” meddai.

“Dydyn nhw ddim yn gwybod hynny yn y tymor hir.

“Yr agwedd yw nad ydyn nhw yn ei weld yn ddrwg gan fod ysmygu yn waeth.

“Mae’n debyg bod y risgiau iechyd ychydig yn llai.

“Mae llai o bobol ifanc yn eu harddegau yn ysmygu oherwydd fêps.

“Mae risgiau iechyd, ac mae’n rhaid iddyn nhw fod yn well nag ysmygu ond pan fyddan nhw yn cymryd gymaint â hynny o nicotin i mewn, mewn ychydig ddyddiau; sut mae hynny’n gallu bod yn dda?

“Maen nhw yn eu gwneud yn 18mg, sy’n gryf.

“Y broblem yw bod rhai pobol ifanc yn eu harddegau yn dechrau ar fêps ac yn mynd ymlaen i sigaréts.

“Maen nhw’n dechrau ar fêps, ac erbyn eu bod nhw’n 18 neu 19 oed, maen nhw’n ysmygu sigaréts.

“Mae yna fariau fêp nicotin is y gallwch eu prynu.

“Mae pobol ifanc yn eu harddegau yn dueddol o ysmygu’r rhai cryfaf oherwydd bod y blas yn well.”