Naw mlynedd union ers cydnabod fod pobol Cernyw yn lleiafrif cenedlaethol, mae gwleidydd blaenllaw wedi galw unwaith eto am “ddatganoli go iawn” yno.

Yn ôl Dick Cole, arweinydd plaid Mebyon Kernow, mae angen dathlu’r hyn sydd wedi’i gyflawni ond “taflu goleuni” hefyd ar yr “ychydig gynnydd sy’n cael ei wneud gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig”.

Mae’n croesawu’r newyddion fod y Gernyweg am gael ei chynnwys ymhlith ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol ym Mesur y Cyfryngau ond yn gofyn “pam fod y fath weithred syml wedi cymryd cyhyd?”

‘Hybu hunaniaeth genedlaethol’

“Heddiw yw nawfed pen-blwydd y Cernywiaid yn cael eu cydnabod fel lleiafrif cenedlaethol,” meddai Dick Cole, sydd hefyd yn gynghorydd yn Tredhinas ac Eglosenoder.

“Mae’n briodol ein bod ni’n nodi’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud i hybu ein hunaniaeth genedlaethol.

“Ond mae hefyd angen i ni ’daflu goleuni’ ar yr ychydig gynnydd sy’n cael ei wneud gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae i’w groesawu fod papur ar y Mesur Cyfryngau sydd i ddod wedi cadarnhau y bydd yr iaith Gernyweg yn cael ei chynnwys ymhlith y rhestr o ‘ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol’ yn y ddeddfwriaeth.

“Mae’n newyddion da – ond pam fod y fath weithred syml wedi cymryd cyhyd?

“Fel arweinydd Mebyon Kernow a chadeirydd gweithgor y Cyngor ar statws lleiafrif cenedlaethol, dw i’n addo parhau â’r pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac eraill dros y deuddeg mis nesaf, fel y gall fod gennym ni rywbeth gwirioneddol i’w ddathlu ar y degfed pen-blwydd!

“Beth am ddatganoli go iawn!”