Mae Liz Saville Roberts wedi cyflwyno cynnig gerbron San Steffan i ddathlu’r ffilm newydd Y Sŵn.

Mae’r ffilm yn adrodd hanes yr ymgyrch i sefydlu S4C a rhan gwleidyddion blaenllaw Plaid Cymru yn yr hanes.

Yn eu plith roedd Gwynfor Evans, arweinydd y blaid ar y pryd, oedd wedi bygwth ymprydio hyd nes bod y sianel yn cael ei sefydlu.

Mae’r ffilm, gafodd ei ffilmio yng Nghaerdydd ac Abertawe, wedi ei chyfarwyddo gan Lee Haven Jones ac mae hi’n ymwneud â digwyddiadau tanllyd yn 1979 a 1980.

Yn 1979, daeth Margaret Thatcher i rym gyda maniffesto a oedd yn rhoi addewid y byddai hi’n sefydlu sianel deledu yn y Gymraeg.

Wedi rhai misoedd mewn grym, gwnaeth dro pedol gan danio protestiadau drwy Gymru.

Mae’r ffilm yn darlunio’r hanes a’r amgylchiadau arweiniodd at benderfyniad y Pleidiwr, yr heddychwr a’r cenedlaetholwr Gwynfor Evans – oedd newydd golli ei sedd i’r Blaid Lafur yn etholiad 1979 – i fygwth llwgu i farwolaeth pe na bai’r llywodraeth yn newid eu meddwl.

Mae’r ffilm yn cyfuno golygfeydd dramatig newydd gyda chlipiau archif o eitemau newyddion, protestiadau a chyfweliadau o’r cyfnod.

Dywedodd cynhyrchydd y ffilm, yr awdur Roger Williams, ei fod e eisiau dod â’r stori i gynulleidfa newydd, a “gwneud iddyn nhw sylweddoli fod pobol wedi brwydro dros y sianel – i beidio cymryd yr hyn wnaethon nhw ei ennill yn ganiataol”.

Y cynnig

Dywed y cynnig gan Liz Saville Roberts fod “y Tŷ hwn yn dathlu rhyddhau Y Sŵn, ffilm iaith Gymraeg yn ailddychmygu’r digwyddiadau arweiniodd at sefydlu S4C, unig sianel deledu iaith Gymraeg y byd”.

Dywed ymhellach fod y Tŷ “yn nodi bod y ffilm yn darlunio ymdrechion ymgyrchwyr gan gynnwys Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru, Gwynfor Evans, i sicrhau’r sefydliad cenedlaethol pwysig hwn”.

Mae hefyd yn “cymell yr awdur Roger Williams a’r cyfarwyddwr Lee Haven Jones am ddod â’r stori bwysig hon i’r sgrîn”, ac “yn nodi bod rhyddhau’r ffilm yn cyd-daro â phen-blwydd S4C yn 40.

Mae’n “nodi ymhellach nod gwneuthurwyr y ffilm i danio sgwrs ymhlith cynulleidfaoedd heddiw ynghylch grym protestiadau, dyfodol darlledu ac iechyd yr iaith Gymraeg”.

Yn olaf, mae’n “llongyfarch y cast a’r criw ar yr ymateb positif i ryddhau’r ffilm yn theatrig”.

Y Sŵn

Y Sŵn yn torri tir newydd

Dafydd Wigley

“Teimlad digon od ydi gwylio ffilm o ddigwyddiadau yr oeddech yn rhan ohonynt,” meddai Dafydd Wigley yn ei adolygiad o’r ffilm
SwnynyStiwt1

Y Sŵn yn y Stiwt

Dr Sara Louise Wheeler

Uffar o noson i’w chofio… yma yng Nghymru Fydd 1

Creu sŵn mawr am S4C yn y sinemâu

Non Tudur

Mae ffilm fawr fentrus am ddarn diweddar o hanes Cymru yn y sinemâu yr wythnos yma