Daeth cadarnhad mai Parc Margam fydd lleoliad Eisteddfod yr Urdd yn 2025.

Cafodd ei gyhoeddi mewn cyfarfod cyhoeddus yng Nghastell-nedd Port Talbot neithiwr (nos Lun, Ebrill 24).

Cytunodd neuadd orlawn o wirfoddolwyr a chynrychiolwyr o’r sir i estyn gwahoddiad i gynnal yr eisteddfod ymhen dwy flynedd.

“Ar ran yr Urdd, rwy’n falch o gyhoeddi mai Parc Margam fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2025,” meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau.

“Braf iawn oedd gweld cefnogaeth unfrydol gan gynrychiolwyr o’r ardal heno i wahodd Eisteddfod yr Urdd nôl i Gastell-nedd Port Talbot.

“2003 oedd y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Pharc Margam.

“Fel Mudiad, rydym yn edrych ymlaen yn fawr i ddychwelyd unwaith eto yn 2025 ac yn diolch o galon i Gyngor Castell-nedd Port Talbot am eu cefnogaeth arbennig.”

‘Anrhydedd arbennig’

Un sydd wedi croesawu’r cyhoeddiad yw’r Cynghorydd Alun Llewelyn, dirprwy arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

“Mae hon yn anrhydedd arbennig i Barc Gwledig Margam ac i Gastell-nedd Port Talbot yn ei gyfanrwydd, ac yn bleidlais wych o ffydd yn yr ardal, y parc a’r ffordd broffesiynol y mae’n cael ei redeg,” meddai.

“Edrychwn ymlaen at groesawu’r llu o ymwelwyr fydd yn mynychu Eisteddfod yr Urdd 2025 ac yn annog pawb sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot i fanteisio ar gael yr ŵyl wych yma ar ein stepen drws.”

Yn ôl Jeremy Hurley, yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a Llesiant Cyngor Castell-nedd Port Talbot, fe fydd yn “ddathliad o’r iaith Gymraeg a’n diwylliant”.

“Bydd hefyd yn hwb i economi leol Castell-nedd Port Talbot drwy groesawu miloedd o ymwelwyr i’n Sir,” meddai.

Eisteddfod yr Urdd yw gŵyl ieuenctid fwyaf Cymru sydd yn denu 75,000 o gystadleuwyr a dros 100,000 o ymwelwyr i’r Maes yn flynyddol.

Bydd Eisteddfod yr Urdd 2025 yn cael ei gynnal ar Barc Margam rhwng Mai 26-31, 2025.

Cyn hynny bydd yr ŵyl ieuenctid yn ymweld â Llanymddyfri rhwng Mai 29 a Mehefin 3 eleni, a Fferm Mathrafal ger Meifod i Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.