Bydd cerflun o Cranogwen yn cael ei ddadorchuddio ym mhentref Llangrannog ar Fehefin 10 eleni.
Y cerflun o Sarah Jane Rees – oedd yn forwr, bardd, athrawes, newyddiadurwraig, pregethwraig ac ymgyrchydd – yw’r trydydd i gael ei gomisiynu gan fudiad Monumental Welsh Women.
Cafodd Cofeb Betty Campbell ei dadorchuddio yng Nghaerdydd yn 2021, a cherflun Elaine Morgan yn Aberpennar yn 2022.
Y bwriad ydy codi pum cerflun i anrhydeddu pum Cymraes mewn pum mlynedd, a bydd y dadorchuddiad diweddaraf yn ddathliad creadigol fydd yn “adleisio elfennau o gyraeddiadau arloesol a niferus Cranogwen”.
Daeth Sarah Jane Rees (1839-1916) yn brifathrawes yn 21 oed, a hi oedd y fenyw gyntaf i ennill gwobr farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1865.
Hi oedd y fenyw gyntaf i olygu cylchgrawn Cymraeg i fenywod, Y Frythones, oedd yn ymgyrchu dros addysg i ferched.
‘Menyw i’n hysbrydoli’
Yr Athro Mererid Hopwood, y fenyw gyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, fydd yn llywio seremoni’r diwrnod.
“Mae’n fraint aruthrol bod yn rhan o’r dathliadau i gofio am yr arloesol Cranogwen,” meddai’r Prifardd.
“Bydd cael cefnogi cymuned Llangrannog a phawb sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod Cymru a’r byd yn cofio amdani yn dipyn o wefr.
“Dyma fywyd a dyma fenyw i’n hysbrydoli ni i gyd.”
Y cerflunydd Sebastien Boyesen o Langrannog sydd wedi bod wrthi’n creu’r cerflun, ac mae wedi mynd ati i gynrychioli campau Cranogwen mewn modd trawiadol ond cynnil, yn ôl y trefnwyr.
Gan adleisio’r ffordd y bu Cranogwen yn annog talentau menywod, mae Keziah Ferguson wedi bod yn cael ei mentora ar gerflunio’n ystod y prosiect drwy weithio gyda Sebastian Boyeson.
Bydd y cerflun yn cael ei leoli yng nghanol Llangrannog, yn yr ardd gymunedol ar ei newydd wedd, dafliad carreg o le cafodd Sarah Jane Rees ei chladdu, ym mynwent yr eglwys.
‘Ysbryd Cranogwen yn dawnsio’
Cafodd yr ymgyrch ei lansio ddwy flynedd a hanner yn ôl gan fudiad Cerflun Cymunedol Cranogwen, is-grŵp o Bwyllgor Lles Llangrannog, mewn partneriaeth gyda Monumental Welsh Women.
Dros y ddwy flynedd, mae’r grŵp wedi llwyddo i godi £75,000 at y cerflun, gardd gymunedol a’r dathliad.
Bydd y dathliad yn cynnwys sawl un o artistiaid lleol Ceredigion, megis Qwerin ac Eddie Ladd, ac artistiaid cenedlaethol fel Casi Wyn, Bardd Plant Cymru, a Hannan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru.
“Yn dilyn dychwelyd o berfformio yn Tasmania rydyn ni wir yn gyffrous i fod yn rhan o ddigwyddiad sy’n dathlu person sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i nifer o bobol ar draws Cymru, a hithau, fel fi, yn lleol i ardal Llangrannog,” meddai Osian Meilyr o Gaerwedros a sylfaenydd Qwerin.
“Bydd ysbryd Cranogwen yng nghamau ein dawnsio Qwerin!”
Mae yna wahoddiad i bawb ymuno yn y dathliad, fydd yn cychwyn gyda gorymdaith liwgar o wersyll yr Urdd, Llangrannog am 1yp.
Bu Cranogwen yn llywydd ar Undeb Dirwestol Merched y De, a bydd yr orymdaith yn talu teyrnged i’r gwaith hynny.
Bydd yr artist Meinir Mathias yn cynnal gweithdai agored cyn y diwrnod er mwyn creu baneri ar gyfer yr orymdaith, ac mae’r bardd Mari George wedi ysgrifennu geiriau newydd i dôn ‘Gwŷr Harlech’ i bawb gyd-ganu ar y daith.