Bydd Gŵyl Ysgrifennu Môn yn gyfle i sgrifenwyr gwrdd â’i gilydd, ac mae croeso i awduron a beirdd newydd a rhai profiadol yn y gweithdai.

Fel rhan o’r ŵyl yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy dros y penwythnos nesaf (Ebrill 29), bydd gweithdai sgrifennu Cymraeg a Saesneg yn cael eu cynnal.

Mae Grug Muse, bardd o Ddyffryn Nantlle sydd wedi ymgartrefu ym Machynlleth, ymysg y rhai fydd yn cynnal gweithdai Cymraeg.

Bydd cyfle i brynu llyfrau, sgwrsio efo awduron, a gwrando ar feirdd yn darllen barddoniaeth fel rhan o’r ŵyl hefyd.

‘Y Gymraeg mewn gwyliau llenyddol’

Mae angen cynnig darpariaeth Gymraeg mewn gwyliau llenyddol ar lefel genedlaethol, meddai Grug Muse wrth golwg360.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod y Gymraeg yn cael lle mewn gwyliau fel hyn,” meddai.

“Byddwn yn disgwyl i unrhyw wŷl lenyddol lle mae’r mwyafrif o bobol yn siarad Cymraeg i fod efo o leiaf rywfaint o gynnwys Cymraeg fel rhan o’r wŷl.

“Mae’n hurt i mi ddychmygu fel arall, mewn ffordd.

“Mae dal croeso i bobol gofrestru ar gyfer gweithdai ac mae’n bwysig bod siaradwyr Cymraeg yn dod i’r gwyliau yma fel bod pobol yn sylweddoli bod angen darpariaeth Gymraeg mewn gwyliau fel hyn.

“Mae’r ffaith bod hi’n wŷl efo’r Gymraeg a’r Saesneg ochr yn ochr yn eithaf cyffrous.

“Efallai bod cyfle i bobol sydd ddim yn siarad Cymraeg ddysgu gan feirdd sydd yn gweithio trwy’r Gymraeg.

“Hefyd efallai bysa ni’n gallu dysgu rhywbeth gan feirdd sydd ddim yn gweithio yn y Gymraeg.

“Mae hynny yn ei gwneud hi’n wŷl fach gyffrous.”

‘Dim ots am y merit llenyddol’

Mae’r ŵyl yn croesawu sgrifennwyr dibrofiad a rhai profiadol, ac mae Grug Muse yn credu y gall unrhyw un roi cynnig ar sgrifennu barddoniaeth rydd.

“Oherwydd bod cerddi rhydd heb gymaint o reolau, fel mae efo’r gynghanedd, mae pobol un ai yn meddwl bod o’n ofnadwy o anodd neu’n ofnadwy o hawdd.

“Mae llawer o grefft i ysgrifennu cerddi rhydd diddorol, cerddi rhydd ffres a cherddi rhydd sy’n herio.

“Nid ar chwarae bach mae rhywun am sgrifennu cerddi rhydd sydd efallai am sefyll prawf amser.

“Byddwn yn sicr yn annog unrhyw un sydd eisiau cael go arni i wneud.

“Mae’n llwyddiant dim ots beth ydy’r merit llenyddol.”

Yr awen

O ble mae beirdd yn cael yr awen?

“Un peth ydy cymryd sylw o iaith a chymryd sylw o ymadroddion neu enwau neu eiriau sydd yn ddiddorol a gweithio efo heini,” meddai Grug Muse.

“Hefyd edrych o dy gwmpas. Dw i’n tynnu llawer o ysbrydoliaeth o’r byd naturiol trwy fynd allan am dro a chymryd sylw o’r byd natur o fy nghwmpas.

“Dyna ddau le yn bersonol dw i’n cymryd ysbrydoliaeth.”