Mewn noson arbennig yn y Ship, Trefin, nos Wener 21 Ebrill, syfrdanwyd y dorf gan ddigwyddiad unigryw – Cleif Harpwood, gynt o Edward H, yn canu cerdd dant yn gyhoeddus! Yng nghanol ei set o’r hen ffefrynnau o gyfnod Ac Eraill ac Edward H, yr hyn a ryfeddodd pawb oedd bod Cleif wedi dewis y gyngerdd i ganu cerdd dant yn gyhoeddus am y tro cyntaf!

Cafwyd gwledd o gerddoriaeth a hefyd storïau am ei anturiaethau “ar y ffordd” yng nghwmni criw Ac Eraill ac Edward H. Gyda Dewi Pws yn gwmni iddo, roedd sawl hanes digri iawn, fel y gellir ei ddychmygu! Wrth ddarllen darnau o’i hunangofiant Breuddwyd Roc a Rol, cafwyd cefndir i rai o glasuron y 70au a’r 80au – caneuon megis ‘Pishyn’, ‘Nôl i’r Gorllewin’, ‘Can yn Ofer’, ‘Mistar Duw’, a’r hen ffefryn ‘Ysbryd y Nos’. Chwarae teg, mae llais tenor yr hen rocer yn dal mor gryf a chlir ag yr oedd yn nyddiau Edward H! Braf hefyd oedd clywed ambell gân o’r opera roc ‘Nia Ben Aur’ a chael hanes y noson gyntaf yn Eisteddfod Caerfyrddin.

Roedd fel camu ’nôl i’r gorffennol, nid yn unig i Cleif, ond i’r gynulleidfa i gyd. Bu hel atgofion am fagwraeth plentyn yng Nghwmafan yn y ’60au, anturiaethau pobol ifanc yn eu harddegau cyffrous, a bywyd stiwdants yn ystod cyffro gwleidyddol y ’70au. Felly, roedd yn noson o hanes cymdeithasol, gwleidyddol a cherddorol yng nghwmni un o fawrion y sîn roc Gymraeg.

Roedd y lle dan ei sang ac roedd yr awyrgylch yn groesawgar a thwymgalon – pobol y cylch yn croesawu Cleif a Geraint Cynan i Drefin – y tro cyntaf iddynt berfformio yn y pentref, mae’n debyg. Mae’r ddau ar daith o amgylch Cymru, ac wedi diddanu cynulleidfaoedd mewn llefydd fel Cwm Aeron ac Abertawe wrth i Cleif hybu gwerthiant ei hunangofiant gwych. Llyfr swmpus, hynod o ddarllenadwy ac wedi’i ysgrifennu’n gelfydd. Mae’n llawn hanesion a storïau, megis am ei gyfnod yn Ysgol Rhydfelen a phan yn fyfyriwr yng Nghaerfyrddin. Mae’n frith o hanesion diddorol, megis ei ymdrech lwyddiannus i brynu bwthyn ym mhentref Derwen Gam ger Aberaeron.

Mae’n anodd credu bod Cleif wedi bod yn cyfrannu at y sîn pop Cymraeg am dros 50 mlynedd ac mae’n dal i lenwi neuaddau Cymru. Yn ychwanegol at yr hen glasuron, canodd Cleif ganeuon mwy diweddar, megis cân o deyrnged i’w hen ffrind a chyd-aelod o Edward H, John Griffiths, a chân i Charlie Britton a fu farw yn ddiweddar.

Dyma oedd y trydydd cyngerdd yng nghyfres “Nosweithiau Cymraeg Trefin a’r cylch”, yn dilyn cyngerdd gan Delwyn Siôn ym mis Tachwedd a Tecwyn Ifan ym mis Mawrth. Y nesaf fydd cyngerdd yng nghwmni Huw Chiswell, a’r gantores dalentog ifanc, Mari Mathias, yn Neuadd Bentref Mathri ar Fai 20.